'Gobaith': Plannu tri o eginblanhigion coeden y Sycamore Gap yng Nghymru

Sycamore Gap

Bydd tri o eginblanhigion (saplings) a gafodd eu tyfu o goeden y Sycamore Gap yn cael eu plannu yng Nghymru, dros ddwy flynedd ers i'r goeden gael ei thorri.

Fe fydd pum eginblanhigyn yn cael eu gosod yn y pridd ddydd Sadwrn, gyda bron i hanner y 49 o goed o'r goeden sycamorwydd yn cael eu plannu dros yr wythnos nesaf.

Bydd tri o'r coed newydd yn cael eu plannu ym Mharciau Cenedlaethol Cymru, sef Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro dros yr wythnosau nesaf.

Cafodd y goeden ei thorri'n bwrpasol dros nos ym mis Medi 2023.

Ym mis Mai eleni, cafwyd Daniel Graham ac Adam Carruthers yn euog o dorri'r goeden enwog a'u dedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.

Cafodd yr eginblanhigion - 49 ohonynt sydd yn cynrychioli uchder y goeden mewn troedfedd pan gafodd ei thorri - ei thyfu yn defnyddio hadau a deunydd o'r goeden.

Bydd y coed, sydd bellach rhwng pedwar a chwe throedfedd o uchder yn cael eu plannu gyntaf yn y Noddfa Goed yn Coventry.

Hefyd bydd coed yn cael eu plannu yn Sir Stafford, Berkshire, Leeds, Northumberland a Sunderland.

Image
Coed Sycamore Gap
Y coed newydd (Llun: PA)

'Ysbrydoliaeth'

Mae Andrew Poad, rheolwr cyffredinol eiddo Wal Hadrian yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud di fod yn "anhygoel" bydd y coed yn cael eu plannu.

“Mae’n anhygoel meddwl y bydd ‘epil’ cyntaf y goeden enwog iawn hon yn cael ei phlannu’r penwythnos hwn," meddai.

“Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y coed ifanc yn dechrau cymryd siâp go iawn, ac oherwydd bod coed sycamorwydden mor wydn, rydym yn hyderus y byddant yn gallu gwrthsefyll amryw o amodau natur."

Ychwanegodd Hilary McGrady, cyfarwyddwr cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod y coed yn "ffynhonnell ysbrydoliaeth".

“Mae’r tîm wedi gofalu am y 49 o goed ifanc hyn yn hyfryd, ac maen nhw bellach yn barod i’w rhoi i gymunedau, lle byddant yn dod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth, yn lle i fyfyrio ac yn gartref i natur," meddai.

"Hefyd fe fyddan nhw'n atgoffa pobl bod yna bethau da sy’n werth ymladd drostynt, hyd yn oed ar ôl rhywbeth mor ddisynnwyr.

“Rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn ffynnu.”

Yn gynnar y mis nesaf, bydd coeden ifanc ychwanegol a roddwyd i'r ysgol agosaf at y Sycamore Gap, Ysgol Gynradd Eglwys Loegr Henshaw, yn cael ei phlannu ar ei thir.

Bydd 15 o goed ifanc eraill yn cael eu plannu ym mhob un o barciau cenedlaethol y DU yn gynnar yn 2026, gan gynnwys un yn Northumberland, lle safai'r sycamorwydden wreiddiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.