Starmer yn galw ar Farage i ymchwilio i gysylltiadau Reform UK gyda Rwsia
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi galw ar Nigel Farage i sefydlu ymchwiliad i gysylltiadau Reform UK gyda Rwsia.
Daw'r alwad ar ôl i gyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, Nathan Gill, gael ei garcharu am 10 mlynedd a hanner ddydd Gwener am dderbyn llwgrwobrwyon.
Dywedodd Syr Keir fod gweithredoedd Gill yn "tanseilio ein gwlad" ac mae wedi galw ar Mr Farage i weithredu.
Wrth siarad â Sky News yn Ne Affrica yn Uwchgynhadledd y G20, dywedodd Syr Keir: "Nigel Farage, mae ganddo lawer i’w ddweud yn aml. Yr hyn sydd angen iddo ei wneud yw lansio ymchwiliad i’w blaid i ddeall sut y digwyddodd hynny.
"Mae hon yn ddedfryd ddifrifol sydd wedi’i rhoi, dros 10 mlynedd. Mae’n fater difrifol iawn.
"Sut ddigwyddodd hynny, bod hyn yn digwydd yn ei blaid? A pha gysylltiadau eraill sydd rhwng Reform a Rwsia?"
Mewn ymateb, dywedodd Mr Farage fod angen i Syr Keir ymchwilio i gysylltiadau'r Blaid Lafur â Phlaid Gomiwnyddol Tsieina.
'Brad i'n gwlad'
Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Al Carns, fod yn rhaid "chwynnu" dylanwad Vladimir Putin yng ngwleidyddiaeth Prydain.
Mae Mr Carns, a oedd yn gyrnol yn y Morlu Brenhinol, wedi dweud fod gweithredoedd Gill yn "warth".
"Rwy’n credu lle bynnag y gwelwn ddylanwad Rwsia yng ngwleidyddiaeth y DU, mae’n rhaid ei chwynnu," meddai.
"Fe wnes i ymladd dros y wlad hon am 24 mlynedd, ledled y byd, ac rwyf wedi gweld fy ffrindiau’n cael eu hanafu neu eu lladd mewn brwydr.
"Mae cymryd arian gan gyfundrefn awdurdodaidd sy’n achosi miloedd o bobl i gael eu lladd ar raddfa na gwelwyd ei thebyg o’r blaen yn annerbyniol, ac mae'n rhaid i ni ei chwynnu."
Roedd Gill, 52, o Ynys Môn, yn aelod o blaid UKIP, yna dilynodd Mr Farage i blaid Brexit ac yn y pen draw daeth yn arweinydd Reform UK yng Nghymru.
Plediodd yn euog i wyth achos o lwgrwobrwyo ar ddyddiadau rhwng 6 Rhagfyr 2018 a 18 Gorffennaf 2019.
Dywedodd y Gweinidog Diogelwch, Dan Jarvis: "Defnyddiodd Nathan Gill ei safle breintiedig mewn swydd gyhoeddus i hyrwyddo buddiannau niweidiol Rwsia dros rai’r DU yn gyfnewid am arian – mae hynny’n frad i’n gwlad, ein pobl, a’n diogelwch cenedlaethol. Bydd nawr yn wynebu canlyniadau ei weithredoedd.
"Yr wythnos hon, cyhoeddais gamau cynhwysfawr i amharu ar ymyrraeth gan wladwriaethau tramor a’i hatal. Bydd gelyniaeth Rwsia a’i hymdrechion i wanhau ein democratiaeth yn parhau i gael eu hatal gan rym llawn y gyfraith."
Dywedodd Llywodraeth y DU y dylid ymchwilio i unrhyw dystiolaeth o ddylanwad tramor niweidiol.
Dywedodd llefarydd y Prif Weinidog: "Os oes tystiolaeth neu amheuaeth o weithgarwch niweidiol gan wladwriaethau tramor ym Mhrydain o unrhyw fath, mae’n gwbl gywir… bod asiantaethau cudd-wybodaeth gorfodi’r gyfraith yn ymchwilio i hynny heb ofn na ffafr."
