Rygbi: Cymru'n 'gyffrous' ar gyfer her y Crysau Duon
Mae carfan Cymru yn "gyffrous" ar gyfer yr "her fawr" o wynebu Seland Newydd yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.
Fe fydd y Crysau Duon yn teithio i'r brifddinas am y tro cyntaf ers Tachwedd 2022, pan enillon nhw 55-23.
Enillodd Cymru eu gêm ddiwethaf yn erbyn Japan, gyda Jarrod Evans yn cicio cic gosb yn y munud olaf i ennill wythnos yn ôl.
Er gwaetha'r fuddugoliaeth dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Steve Tandy ei fod yn "disgwyl mwy" gan ei dîm.
D'yw Cymru heb ennill yn erbyn Seland Newydd ers 1953, ac wedi colli'r 33 gêm ddiwethaf yn eu herbyn.
Ond mae asgellwr Cymru, Tom Rogers yn "gyffrous" i wynebu'r Crysau Duon ddydd Sadwrn.
“Pan o’n i’n fach o’n i wastad yn watsho’r All Blacks games," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
“Ma’ fe’n her fowr a bydd e’n bouncing ‘ma [yn Stadiwm y Principality].
“Yn amlwg ni yw’r underdogs, ma’n amlwg bod e’n her mawr, ond ma’ rhaid ni roi gêm ni ar y pitch.
“Ni’n cyffrous am y challenge.”
Mae Cymru yn paratoi am y gêm wedi iddyn nhw ennill am y tro cyntaf ers dwy flynedd yn Stadiwm Principality.
A hynny tra bod Seland Newydd wedi colli yn erbyn Lloegr yn Twickenham penwythnos diwethaf.
Mae'r Crysau Duon wedi gwneud sawl newid i'r tîm i wynebu Lloegr, gyda Scott Barrett a Simon Parker yr unig ddau chwaraewr i gadw eu lle yn yr 15 sy'n cychwyn.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1991439586921246742?s=20
Mae disgwyl i chwe chwaraewr gwneud eu hymddangosiad cyntaf yng Nghyfres yr Hydref hefyd.
Fe wnaeth Steve Tandy pedwar newid i'r tîm a enillodd yn erbyn Japan, gyda Joe Hawkins, Harry Deaves, Taine Plumtree a Tom Rogers yn cael eu henwi yn y XV cychwynnol.
