Cwpan Cymru JD: Glyn-nedd, Bangor a'r Rhyl ymhlith y timau'n y drydedd rownd
Bydd Glyn-nedd, Bangor 1876 a Rhyl 1879 ymhlith 32 o glybiau yn cystadlu yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD y penwythnos hwn.
Bydd naw o glybiau’r uwch gynghrair yn cymryd rhan, yn ogystal â 14 o dimau’r ail haen, saith o’r drydedd haen, Port Talbot o’r bedwaredd haen, a’r clwb isaf ar ôl yn y gystadleuaeth, sef Glyn-nedd o’r bumed haen.
Cododd Bangor y gwpan deirgwaith yn olynol rhwng 2008 a 2010, a bydd y clwb dan ei newydd-wedd yn wynebu her anodd yn erbyn Treffynnon brynhawn Sadwrn.
Bydd enillwyr 2006/07, Caerfyrddin yn croesawu Bae Colwyn i Barc Waun Dew wrth i’r clybiau gyfarfod am y tro cyntaf erioed, a hynny yn fyw ar S4C.
Mewn gêm ddarbi yn Sir y Fflint bydd Airbus UK yn gwneud y daith fer i Gae y Castell i herio’r Fflint, tra bydd Caernarfon yn croesawu Penrhyncoch i Barc Maesdu.
Y Rhyl oedd enillwyr y gystadleuaeth yn 2005/06, a bydd y Lilisgwynion yn croesawu Cwmbrân i’r Belle Vue brynhawn Sadwrn, clwb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar dri achlysur, ond sydd erioed wedi codi’r tlws.
Llwyddodd Port Talbot i guro’u cymdogion, Lido Afan yn y rownd ddiwethaf, a’r wobr i’r Gwŷr Dur yw taith bell i Borthmadog brynhawn Sadwrn.
Glyn-nedd yw’r tîm isaf ar ôl yn y gystadleuaeth, ac mi fydd y clwb o’r bumed haen yn herio Bae Trearddur, sydd ddwy gynghrair uwch eu pennau.
Dyma restr o'r holl gemau ddydd Sadwrn (rhif yn dynodi lefel cynghrair):
Bangor 1876 (3) v Treffynnon (2)
Caerfyrddin (2) v Bae Colwyn (1)
Caernarfon (1) v Penrhyncoch (2)
Dolgellau (3) v Caerau Trelai (2)
Draconiaid Caerdydd (2) v Trefelin (2)
Glyn-nedd (5) v Bae Trearddur (3)
Penrhiwceibr (3) v Gresffordd (2)
Porthmadog (3) v Port Talbot (4)
Sêr Treowen (2) v Pontypridd (2)
Y Rhyl 1879 (2) v Cwmbrân (3)
Y Fflint (1) v Airbus UK (2)