Rhan o dwnnel Conwy yn parhau ar gau ar ôl i gerbyd fynd ar dân

20/06/2025

Rhan o dwnnel Conwy yn parhau ar gau ar ôl i gerbyd fynd ar dân

Mae rhan o dwnnel Conwy yn parhau ar gau ddydd Gwener ôl i gerbyd fynd ar dân mewn "digwyddiad mawr" yno ddydd Iau.

Cafodd 10 injan dân a phedwar peiriant arbenigol eu galw i'r twnnel ar yr A55 ychydig cyn 14:00 brynhawn ddydd Iau, meddai'r gwasanaeth tân.

Roedd swyddogion yno am chwe awr wrth iddyn nhw fynd i'r afael â'r “digwyddiad mawr."

Mae Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru yn dweud bod y ffordd wedi ailagor yn rhannol, gyda system wrthlif mewn lle sy’n galluogi i draffig barhau i lifo i’r ddau gyfeiriad ar yr A55. Mae’r gwasanaeth hefyd wedi rhybuddio teithwyr i ganiatäu digon o amser ar gyfer teithio drwy’r ardal.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori cwmnïau cludiant a gyrwyr llwythi trwm i osgoi Twnnel Conwy oherwydd y llif ddwyffordd ar y lôn i gyfeiriad y dwyrain.

Mae lluniau o'r fan a'r lle yn awgrymu mai lori craen aeth ar dân.

Dywedodd y llu nos Iau y bydd yn rhaid cynnal archwiliadau trylwyr o'r twnnel cyn iddo gael ei ail-agor.

Maen nhw'n rhagweld y bydd oedi sylweddol yn yr ardal yn ystod y diwrnodau nesaf. 

Image
Twnnel Conwy

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gynharach ddydd Iau eu bod yn “gweithio gyda phartneriaid aml-asiantaeth i reoli'r tân [a] diogelu'r amgylchedd" gyda'r nod o "ailagor y twnnel cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny". 

Maen nhw’n parhau i annog pobl sydd yn byw yn yr ardal i gadw eu ffenestri a drysau ar gau.

Roedd ciwiau yn ymestyn yn ôl i Fae Colwyn brynhawn ddydd Iau ac roedd gyrwyr yn cael eu dargyfeirio 35 milltir drwy Lanrwst a Betws-y-coed gan achosi  tagfeydd difrifol.

Dywedodd Mike Plant, Pennaeth Cynllunio, Perfformiad a Thrawsnewid Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedd yr ymateb i'r digwyddiad hwn yn dangos proffesiynoldeb, gwytnwch a gwaith tîm rhagorol. 

"Roedd ein criwiau, swyddogion, a staff rheoli yn gweithredu o dan amgylchiadau hynod heriol, ac roedd eu gweithredoedd cyflym, penderfynol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth atal y tân rhag ledaenu.

Hoffwn ddiolch o galon i holl staff y Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru a'n partneriaid a gefnogodd yr ymateb ac a helpodd i ddiogelu ein cymunedau."

Prif lun: Eira D'Arcy

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.