Cyhuddo saith o bobl yn dilyn anhrefn treisgar
Mae saith o bobl o Gasnewydd wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad ag achos o anhrefn treisgar yn y ddinas.
Fe gafodd swyddogion o Heddlu Gwent eu galw i Commercial Road ar ôl i grŵp o ddynion gael eu gweld yn ymladd tua 15:20 ddydd Gwener.
Fe gafodd chwe dyn 25, 28, 33, 40, 42 a 52 oed a llanc 17 oed i gyd o ardal Casnewydd, eu harestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar.
Mae'r chwe dyn wedi cael eu cadw yn y ddalfa ac mae'r llanc 17 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Mae disgwyl iddyn nhw i gyd ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ar 4 Awst.
Mae wythfed dyn, dyn 40 oed, o Gasnewydd, hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar ac mae ar hyn o bryd yn y ddalfa.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd John Davies o Heddlu Gwent: "Rwy'n gobeithio bod y cyhuddiadau hyn yn dangos i'n cymunedau ein bod wedi buddsoddi'n helaeth mewn ymateb i adroddiadau troseddau ac ymchwilio iddynt, a'n bod wedi ymrwymo i helpu i gadw strydoedd Gwent yn ddiogel."