Dyn wedi marw ar ôl cwympo yn ystod gig Oasis
Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod dyn wedi marw ar ôl cwympo yn Stadiwm Wembley yn ystod cyngerdd Oasis nos Sadwrn.
Dywedodd heddlu’r metropolitan fod swyddogion ar ddyletswydd yn y stadiwm wedi ymateb, gyda chymorth meddygon o wasanaeth Ambiwlans Llundain, yn dilyn adroddiadau bod person wedi'i anafu am tua 10.20pm.
Dywedodd y datganiad gan y llu: "Cafwyd hyd i ddyn - yn ei 40au - gydag anafiadau oedd yn gyson â chwymp.
“Yn anffodus, fe gadarnhawyd ei fod wedi marw yn y fan a'r lle."
Yn ôl adroddiadau o’r stadiwm, cwympodd y dyn o haen uchaf stadiwm Wembley, sydd a’r gallu i ddal hyd at 90,000 o bobl.
Mae Oasis wedi ail-ffurfio ar gyfer taith fyd-eang eleni, wedi saib o dros 15 mlynedd. Fe ddechreuodd y band eu taith yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, gan chwarae dau gyngerdd yn Stadiwm y Principality.