'Gobaith o ehangu opsiynau' gyda digwyddiad i bobl anabl i brofi gyrru

Newyddion S4C

'Gobaith o ehangu opsiynau' gyda digwyddiad i bobl anabl i brofi gyrru

Yn ddiweddar fe gynhaliwyd diwrnod agored yng Nghaerdydd i bobl anabl i brofi gyrru am y tro cyntaf.

Daeth elusennau at ei gilydd yn stadiwm Maendy i gynnig amrywiaeth o gerbydau ac addasiadau.

“Mae’n anhygoel”

Yn ôl y para-athletwr Paralympaidd Aled Sion Davies OBE, mae’n rhoi gobaith o ehangu eu hopsiynau i’r dyfodol.

“Annibyniaeth yw'r peth pwysicaf i fi, yn enwedig rywun sydd efo anabledd, a fi 'di gweld hwnna heddiw. Mae 'na sawl pobl wedi troi lan, o'n nhw ddim yn gwybod bo' nhw'n gallu gyrru, a mae wedi bod yn emosiynol. Nhw 'di dod mas, crio, edrych ar y teulu, teulu'n crio. Mae jyst gweld y plant yn mynd, 'reit, pryd fi'n gallu gael y lesson gyntaf?' a pethau fel 'na, mae'n jyst anhygoel.”

Image
Gyrru

 Yn lle defnyddio’r traed, mae modd gyrru gyda dwylo yn unig, ac mae’r teclynau yn amrywio o liferau a botymau i gyflymu a brecio gyda’r llaw dde, a phêl ar olwyn y llyw ar gyfer y llaw chwith.

Pwrpas y digwyddiad yw i roi “hwb i bobl sydd ddim yn gallu gyrru”, meddai Gareth Reese, un o aseswyr gyrru Mobility Wales, “a rhoi gobaith iddyn nhw,” gan “roi nhw mewn cyswllt â pobl sy’n gallu dysgu gyrru iddyn nhw, a rhoi hyder iddyn nhw.”

“Newid bywyd dros nos”

Pwysleisio’r angen am nwyddau fel hyn mae Davies, a oedd yn noddi’r digwyddiad, gan ddweud eu bod wedi rhoi rhyddid ac annibyniaeth iddo.

“Pan o'n i'n tyfu lan, oedd Mam a Dad yn jyst meddwl 'ydy e'n mynd i gyrru?' O fi'n caru chwaraeon, o fi'n mynd dros Gymru i gyd i gwahanol clybiau, gwahanol chwaraeon, oedden nhw fel taxi service i fi. Pan o'n nhw wedi ffeindio mas bod Mobility Wales yn dweud, 'dod lan, trio'r driving assessment, gweld be' chi angen, oedd e jyst wedi newid bywyd dros nos.”

Image
Gyrru

Ond mae’n debyg bod technoleg wedi symud yn ei flaen ers iddo ddysgu gyrru.

“Mae'n anhygoel i weld shwt gymaint mae pethau wedi datblygu, a chi’n cael ceir nawr ble mae pobl yn gyrru car nhw efo ceg, a nhw'n gallu gyrru yn y cefn o'r car lan at yr olwyn a gyrru eu hunain gartref, a mae hwnna'n jyst anhygoel.”

“Y peth o'n i jyst eisiau gael allan o'r dydd 'ma yw… mae'r service yma yma. A nhw eisiau pawb i defnyddio fe. Ni eisiau i gael pawb yn gyrru, yn enwedig os chi’n gael anabledd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.