Dau ambiwlans awyr yn gorfod glanio mewn stadiwm pêl-droed
Roedd yn rhaid i ddau o hofrennyddion yr ambiwlans awyr lanio ar y cae chwarae yn stadiwm Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Mewn datganiad gan Glwb Pêl-droed Casnewydd ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd llefarydd ar ran y clwb fod un o'r "cefnogwyr wedi mynd yn sâl' yn yr eisteddle o fewn y stadiw.
Roedd yn rhaid i gefnogwyr adael y stadiwm am tua awr wrth i swyddogion meddygol ymateb i'r digwyddiad, ond yn ddiweddarach fe gafocc y cefnogwyr ddychwelyd i'w seddi, ac fe aeth y gêm yn ei blaen.
Yn wynebu'r Alltudion ddydd Sadwrn, roedd Notts County, a dyma'r gêm gyntaf o'r tymor i'r ddau dîm sy'n chwarae yn yr Ail Gynghrair bêl-droed Lloegr. Fe orffenodd y gêm yn gyfartal, gyda'r naill dîm yn sgorio un gôl yr un.
Fe aeth y datganiad y clwb ymlaen:"Rydym yn anfon ein cofion gorau un at y person gafodd ei daro'n wael." ac nid oes cadarnhad pellach wedi dod am gyflwr yr unigolyn gafodd ei daro'n wael.