Arestio saith o bobl wedi 'digwyddiad treisgar'
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod saith o bobl o ardal Casnewydd wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â digwyddiad o anhrefn "treisgar" yn y ddinas .
Fe gafodd swyddogion o Heddlu Gwent eu galw i Commercial Road ar ôl i grŵp o ddynion gael eu gweld yn ymladd am tua 15:20 brynhawn Gwener.
Mae chwe dyn 25, 28, 33, 40, 42 a 52 oed ac un llanc 17 oed, i gyd o ardal Casnewydd, yn parhau yn y ddalfa.
Fe gafodd bedwar o'r dynion driniaeth yn yr ysbyty ar ôl y digwyddiad, ac mae dau ohonynt yn parhau i dderbyn triniaeth yno.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd o Heddlu Gwent, John Davies: "Ni fyddwn yn goddef unrhyw un sy'n ymddwyn mewn ffordd mor dreisgar ar ein strydoedd.
"Mae trais o unrhyw fath yn gwbl annerbyniol ac rydym wedi gweithredu'n gadarn wrth wneud yr arestiadau hyn; bydd unrhyw un arall a geir yn rhan o'r anhrefn treisgar hwn hefyd yn cael ei gosbi."