Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan feic modur
Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan feic modur wrth iddo gerdded drwy ganol tref Llanelli.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi derbyn adroddiadau am ddigwyddiad difrifol yn ymwneud â beic modur a cherddwr tua 21:55 nos Wener.
Roedd y dyn, a oedd yn cerdded ger siop Home Bargains ar Heol yr Orsaf, wedi dioddef anafiadau difrifol a bu farw yn y fan a'r lle.
Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae teulu'r cerddwr yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, ac mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda'u hymchwiliad i gysylltu â'r heddlu.