Sioe'r Steddfod yn edrych ar ‘gyfnod anodd’ i glwb pêl-droed Wrecsam

Y Stand

Bydd sioe ym Mhafiliwn yr Eisteddfod nos Sadwrn a nos Lun yn edrych ar “gyfnod trafferthus” yn hanes Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Mae’r clwb ar hyn o bryd yn dathlu llwyddiant ar ôl tri dyrchafiad mewn tair blynedd yn unig.

Ond nid felly y bu am nifer o flynyddoedd a bydd ‘Y Stand’, gan Manon Steffan Ros ac Osian Huw Williams, yn mynd a’r gynulleidfa ar i ganol cymuned Wrecsam i glywed stori llawn gobaith, emosiwn, a phêl-droed.

Bydd ‘Y Stand’ yn talu teyrnged i dreftadaeth cerddoriaeth roc gyfoethog yr ardal, ac yn tynnu dylanwadau o’r alawon angerddol a glywir o’r Capel i’r Kop, meddai’r cyfarwyddwr Siwan Llynor.

“Stori’r cyfnod trafferthus i’r clwb pêl-droed sy’n cael ei hadrodd yn ‘Y Stand’,” meddai Siwan Llynor, sy’n ei ddisgrifio fel cyngerdd theatrig.

“Ond mae’r stori hefyd yn edrych ar berthynas agos y gymuned yn ardal Wrecsam drwy lygaid pedwar o’r cefnogwyr sy’n eistedd wrth ymyl ei gilydd wrth wylio’r pêl-droed. 

“Collodd Wrecsam eu lle yng Nghynghrair Lloegr yn 2008 ar ôl helbulon ariannol, ac mae’r stori’n olrhain eu hymdrechion i fynd yn ôl i’r gynghrair. 

“Mae’n dangos bod 'ennill a cholli’n bwysig ond bod pobl yn bwysicach,” meddai. 

‘Arian yn dynn’

Bu’r côr, dan arweinyddiaeth Pete Davies, Elen Mair Roberts ac Aled Phillips, yn cyfarfod yn gyson yng Ngholeg Cambria ers dechrau Chwefror. 

“Rydyn ni’n gôr o bron i 200 o aelodau erbyn hyn, ac mae pawb yn frwdfrydig iawn ac wedi mwynhau’r ymarferion,” meddai Pete Davies.

“Mae pawb yn edrych ymlaen at berfformio’r sioe yn y Pafiliwn ar y nos Sadwrn cyntaf a’i hailadrodd nos Lun.”

Ffurfiwyd y clwb pêl-droed ym mis Hydref 1864 gan aelodau o Glwb Criced Wrecsam a oedd yn chwilio am weithgaredd corfforol yn ystod misoedd y gaeaf. Maen nhw ymysg y timau hynaf yn y DU, a nhw yw’r tîm hynaf yma yng Nghymru. 

Ond bu bron i hyn oll ddod i stop yn y 2010au, a dim ond ymdrechion caled criw bach o gefnogwyr achubodd y clwb a sicrhau ei ddyfodol. 

“Ym mis Awst 2011 casglodd y cefnogwyr £127,000 mewn un diwrnod er mwyn helpu i dalu ‘bond’ fel eu bod nhw’n gallu sicrhau y byddai’r clwb yn gallu parhau i weithredu,” meddai Pete.

“Fis yn ddiweddarach, daeth Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam (WST) yn gyfrifol am redeg y clwb o ddydd i ddydd.

“Ond roedd arian yn dynn a bu ambell gyfnod du arall. Ym mis Tachwedd 2020, cytunodd y cefnogwyr i werthu’r clwb i’r actorion Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, ac fe chwistrellwyd arian i mewn i’r clwb. 

“Ers hynny, mae Wrecsam wedi mynd o nerth i nerth, ac yn ddiweddar, maen nhw wedi ennill eu trydydd dyrchafiad o’r bron. 

“Roedd yn rhaid inni gywasgu rhywfaint ar y stori, ac felly mae ‘Y Stand’ yn edrych ar y cyfnod rhwng 2008 a 2020, a’r côr yw’r dorf o gefnogwyr sy’n gwylio’r gemau. 

“Mae Manon wedi ysgrifennu caneuon sy’n hawdd i’w canu, ac mae alawon Osian hefyd yn ganadwy iawn. 

“Rydyn ni’n awyddus bod y gynulleidfa’n gadael y Pafiliwn yn hymian ac wedi mwynhau eu hunain yn fawr.” 

‘Uchelgeisiol’

Bydd y côr hefyd yn cael cyfle i berfformio yn y Gymanfa Ganu nos Sul. Dan arweiniad Ann Atkinson, byddan nhw’n canu rhan o oratorio ‘Dewi Sant’ gan Arwel Hughes. 

“Mae’r darn yn un heriol iawn nad yw’n cael ei ganu’n aml, ond mae’n werth ei glywed,” meddai Pete Davies.

“Bydd y côr hefyd yn canu yr emyn dôn fuddugol a threfniant hyfryd Caradog Roberts o Salm 23, ‘Yr Arglwydd yw fy mugail’.” 

Athro wedi ymddeol yw Pete Davies, ac yn ogystal â’i holl waith yn paratoi’r côr ar gyfer y perfformiadau nos yn y Pafiliwn, mae hefyd yn cadw’n brysur drwy arwain ‘Côr Ni’, côr cymunedol yn ninas Wrecsam. 

“Ffurfiwyd y côr ym mis Medi 2023 ac mae’r aelodau’n griw ifanc hwyliog,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn canu pethau clasurol – caneuon pop a chaneuon o’r sioeau rydyn ni’n eu canu’n bennaf – ond eleni rydyn ni am fod yn hynod o uchelgeisiol a chystadlu yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf,” meddai. 

Cynhelir ‘Y Stand’ ar lwyfan y Pafiliwn nos Sadwrn 2 Awst a nos Lun 4 Awst am 19:30, a chynhelir y Gymanfa Ganu yn y Pafiliwn nos Sul 3 Awst am 19:30.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.