Athrawes yn ddylanwad mawr ar yrfa'r actor Mark Lewis Jones
Er ei fod yn actor enwog sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau dros y byd i gyd dyw'r gwaith caib a rhaw ar faes yr Eisteddfod ddim yn ddiarth i Mark Lewis Jones.
Mae Llywydd yr Ŵyl eleni yn ymwelydd cyson â’r Brifwyl gan fod ei wraig Gwenno yn rhedeg busnes fu’n llogi stondin ar y Maes.
“Fe fydda i’n helpu i lwytho’r fan a gosod y stondin, ac yna dwi’n treulio’r amser yn crwydro’r Maes, yn cyfarfod pobl a gwneud ffrindiau newydd,” meddai.
Ychwanegodd Mark nad oes gan ei deulu gefndir artistig ond y byddai’i nain yn mynd â fo i’r Stiwt i weld ffilmiau ar fore Sadwrn.
“Dyna oedd y dechrau mewn gwirionedd, ond fe ddechreuodd pethau o ddifri yn Ysgol Morgan Llwyd pan ofynnodd athrawes, Gwawr Mason-Davies yn ddiweddarach - imi gymryd rhan mewn drama pan o’n i tua 16 oed.
“Ac am ryw reswm ’nes i gytuno, a newidiodd fy mywyd yn llwyr.
“Cyn hynny, ’doedd gen i ddim awydd actio o gwbl, ac rwy’n sicr na fyddwn i wedi mynd yn actor os na fyddai Gwawr wedi bod yn yr ysgol.
“Fyddwn i ddim wedi meddwl am fod yn actor. ’Doedd ’na ddim byd felly yn fy nheulu i o gwbl. Dim byd.
“Seiri yw fy nhad a fy nau frawd, ond mi oedd o’n amlwg i bawb - gan fy nghynnwys i - nad oeddwn i am ddilyn y llwybr hwnnw.
“Felly, does gen i ddim syniad beth y baswn i wedi’i wneud oni bai am y foment yna.”
Wedi'i eni a'i fagu ym mhentref Rhosllannerchrugog, ychydig y tu allan i Wrecsam, anaml y mae wedi bod allan o waith dros y degawdau diwethaf.
Mae wedi ymddangos ar nifer fawr o sioeau teledu eiconig y cyfnod diweddar, gan gynnwys ‘The Crown’, ‘Outlander’, ‘Game of Thrones’, ‘Chernobyl’, ‘Keeping Faith’, ‘Man Up’ a ‘Baby Reindeer’.
Ymddangosodd hefyd mewn ffilmiau sy’n enwog dros y byd i gyd, gan gynnwys ‘Star Wars: The Last Jedi’ a’r ffilm ddiweddar o Ganada, ‘Sweetland’.
Ond dywedodd mai drwy hap a damwain yn unig yr aeth ei fywyd i gyfeiriad actio.
Bu’r gefnogaeth a’r anogaeth a gafodd gan ei gymuned leol yn Rhosllannerchrugog yn greiddiol iddo a’i yrfa fel actor dros y 40 mlynedd ddiwethaf, meddai.
“Yn y chwedegau a’r saithdegau pan o’n i’n tyfu i fyny, roedd ’na lawer o Gymraeg i’w glywed, ond roedden ni fel arfer yn siarad Saesneg gartref,” meddai.
“Ond es i ysgol Gymraeg, Morgan Llwyd. Ac roedd gen i neiniau a theidiau oedd yn siarad Cymraeg efo ni.
“Roedd ’na lawer o Gymraeg o gwmpas drwy’r amser, felly ges i fagwraeth ddwyieithog mewn gwirionedd.”
Ymunodd Mark â’r theatr ieuenctid yn Theatr Clwyd cyn mynd i astudio drama yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.
Yna, bu’n gweithio yn Theatr Clwyd, cyn symud i Lundain am 27 mlynedd, a symud wedyn i Gaerdydd a phriodi ei wraig, Gwenno.
“Bryd hynny, roedd ’na lai o sianeli teledu, felly ro’n i’n gwneud theatr ac ychydig o ffilmio.
“ Fe fues i’n gweithio gyda chwmni’r Royal Shakespeare am dair blynedd, ac yna am ddwy flynedd gyda’r National Theatre.
“Yna, ges i fwy a mwy o waith teledu, a phethau da, gyda llwyth o bethau yng Nghymru hefyd,” meddai.
Llun: Cat Arwel