Tîm hoci Cymru yn ennill dyrchafiad am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd
Mae tîm hoci merched Cymru wedi ennill dyrchafiad am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd, a hynny yn dilyn eu perfformiad ym Mhencampwriaeth Menywod EuroHockey yng Ngwlad Pwyl.
Fe ddaeth y tîm yn ail yn y gystadleuaeth, gan gipio'r fedal arian a drwy hynny yn cymhwyso ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Dyma'r ail dro yn unig yn holl hanes y tîm i sicrhau hynny.
Fe sicrhaodd tîm hoci dynion Cymru hefyd i drechu Iwerddon yn y gêm derfynol o'r un gystadleuaeth.