AS Llafur yn dweud iddo gael ei gam-drin gan gyn-bennaeth y National Youth Theatre
Mae'r AS Llafur Syr Chris Bryant wedi dweud iddo gael ei gam-drin yn rhywiol yn ystod ei arddegau gan gyn-bennaeth y National Youth Theatre, Michael Croft.
Dywedodd Syr Chris fod Mr Croft, a fu farw ym 1986, wedi'i wahodd i ginio bob nos tra roedd yn mynychu sesiynau'r cwmni drama yn Llundain yn ystod haf 1978.
Gwnaeth AS Rhondda ac Ogwr y sylwadau mewn cyfweliad â rhifyn ddydd Sul o The Sunday Times.
Mewn datganiad, dywedodd y National Youth Theatre eu bod yn "ddrwg iawn bod hyn wedi digwydd i Syr Chris, ac i eraill sydd wedi rhannu eu hanesion o gam-drin hanesyddol dan law'r un troseddwr".
Roedd Mr Croft 40 mlynedd yn hŷn na'r bachgen 16 oed ar y pryd, ac fe ddywedodd Syr Chris fod y cam-drin wedi dechrau ar ôl dychwelyd i dŷ Mr Croft un noson, ac wrth i'r bachgen ddod yn ôl o'r toiled i ganfod Mr Croft yn noeth oni bai am goban sidan.
Dywedodd Syr Chris wedyn fod Mr Croft wedi gofyn iddo am ryw, ac nad oedd yn teimlo fod ganddo ddewis ond mynd ymlaen gyda'r weithred, gan ei adael yn teimlo fel "putain 16 oed" meddai.
Roedd Syr Chris yn gwneud y cyfweliad cyn rhyddhau ei lyfr newydd: "Dydw i ddim yn hoffi dweud hyn yn fawr iawn oherwydd dydw i ddim wedi adrodd yr hanes yma yn aml iawn.
"Byddwn yn mynd i'r un bwyty Eidalaidd bob amser yn King's Cross yn Llundain. Ar ôl bwyta ac yn yfed yno, byddai'n rhoi lifft adref i mi mewn theori, ond roeddwn i bob amser yn gorffen yn ei dŷ."
Dywedodd Syr Chris er ei fod yn teimlo fod Michael Croft wedi ymddwyn mewn ffordd "afiach" tuag ato ar y dechrau, roedd y ddau wedi parhau i fod yn ffrindiau hyd nes marwolaeth Mr Croft.
Dywedodd datganiad ar wefan y National Youth Theatre, eu bod fel sefydliad yn "ddiolchgar i Chris Bryant am ddatgelu'r cam-drin hanesyddol a ddioddefodd yn y cwmni yn y 1970au".
"Mae'n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd iddo ef ac i eraill sydd wedi rhannu eu hachosion o gam-drin hanesyddol gan yr un troseddwr.
"Fel y nodwyd mewn datganiad cyhoeddus ar yr achos yn 2017, rydym yn sefyll mewn undod â phob dioddefwr camdriniaeth ac yn annog unrhyw un sydd wedi profi cam-drin, ni waeth pa mor bell yn ôl, i siarad â rhywun a chael mynediad at gymorth."