Newyddion S4C

100kg o weips gwlyb yn mynd i Afon Taf bob blwyddyn

Weips gwlyb yn y Taf

Mae cymaint ag 100kg o weips gwlyb yn mynd i rannau isaf Afon Taf bob blwyddyn yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae ymchwilwyr y brifysgol wedi defnyddio model mathemategol newydd i gyfrifo faint o weips gwlyb sy’n cael eu fflysio i mewn i’r afon.

Dywedodd Thomas Allison, ymchwilydd PhD yn Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd bod y weips gwlyb sy’n cael eu fflysio’n peri risg sylweddol o ran llygredd i afonydd.

“Er bod llawer iawn o bobl yn gwybod na ddylen nhw fflysio weips gwlyb, mae gwaredu amhriodol yn parhau o hyd," meddai.

“Mae angen i ni asesu'n drylwyr y risgiau amgylcheddol y mae’r weips hyn yn eu peri. I wneud hynny, mae angen i ni wybod faint sy'n debygol o fynd i systemau afonydd.

"Mae diffyg dealltwriaeth feintiol o daith bob weip wleb sy’n cael ei fflysio i lawr y toiled yn rhwystro dealltwriaeth briodol o allyriadau weips gwlyb i afonydd, ac i foroedd a chefnforoedd yn y pen draw.”

Datblygodd yr ymchwilwyr fodel y weips gwlyb drwy gyfuno modelau o allyriadau microblastig â modelau arbrofol o sut mae weips gwlyb yn cynhyrchu microffibrau mewn systemau dŵr gwastraff. 

Er bod bron i 99% o weips gwlyb solet yn cael eu cludo i weithfeydd trin dŵr gwastraff a’u cyfeirio wedyn at safleoedd tirlenwi a chyfleusterau eraill, mae’r ymchwilwyr wedi darganfod fod weips gwlyb yn mynd i systemau dŵr o hyd.

Mae unigolion yn y DU yn cyfrannu 33 o weips plastig bob blwyddyn ar gyfartaledd, medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.