Newyddion S4C

Diffoddwr tân wedi marw wrth i danau gwyllt barhau i effeithio Groeg

Sky News 07/08/2021

Diffoddwr tân wedi marw wrth i danau gwyllt barhau i effeithio Groeg

Mae diffoddwr tân gwirfoddol wedi marw a 1,000 o bobl wedi gorfod symud o ynys Evia ger Athen wrth i danau gwyllt barhau i effeithio Groeg. 

Yn ogystal, mae o leiaf 20 o bobl wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty, wrth i awdurdodau'r wlad geisio brwydro yn erbyn tanau gwyllt difrifol sydd wedi lledaenu'n sydyn.

Yn ôl Sky News, mae'r awdurdodau hefyd yn cynnig cymorth i bobl sydd â phroblemau anadlu, ar ôl i nifer o breswylwyr ac ymwelwyr cael eu hachub gan gychod bychain penwythnos diwethaf. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.