Tri thîm o Gymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn Ewrop

17/06/2025
ewrop cymru

Mae tri thîm o Gymru wedi darganfod eu gwrthwynebwyr yn Ewrop y tymor nesaf.

Ar ôl ennill y JD Cymru Premier am y pedwerydd tymor yn olynol eleni, fe fydd Y Seintiau Newydd yn chwarae unwaith eto yng Nghynghrair y Pencampwyr, gan chwarae yn y rownd ragbrofol gyntaf.

Fe fydd Pen-y-bont, a ddaeth yn ail yn y gynghrair eleni, yn cystadlu yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Cyngres UEFA am yr ail waith mewn tair blynedd, ynghyd â Hwlffordd.

Bydd Y Seintiau Newydd yn wynebu SK Shkëndija o Ogledd Macedonia ar naill ai 8 neu 9 Gorffennaf.

Yn nhymor 2023/24 roedd Hwlffordd wedi ennill yn erbyn SK Shkëndija yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa.

Golwr yr Adar Gleision Zac Jones oedd yr arwr bryd hynny pan aeth yr ornest i giciau o'r smotyn.

Os ydi'r Seintiau Newydd yn ennill eu gêm, fe fyddan nhw yn mynd yn eu blaen i'r ail rownd ragbrofol.

Os ydyn nhw'n colli, fe fyddan nhw'n symud i ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA.

Taith i Malta sy'n wynebu Hwlffordd eleni wrth iddyn nhw herio Floriana ar 10 Gorffennaf.

Dyma'r drydedd tro i'r clwb gystadlu yn Ewrop, ac fe fyddan nhw'n gobeithio cyrraedd yr ail rownd unwaith eto.

Lithwania yw lleoliad gwrthwynebwyr Pen-y-bont a hynny yn ninas Kaunas i herio FK Kauno Žalgiris.

Colli yn erbyn FC Santa Coloma o Andorra yw unig ganlyniad y clwb yn Ewrop yn eu hanes.

Ar ôl gorffen yn yr ail safle yn y Cymru Premier JD eleni bydd tîm Rhys Griffiths yn anelu am dymor cadarnhaol arall, a hynny'n cychwyn yng nghystadleuaeth Ewropeaidd ar 10 Gorffennaf.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.