Amseroedd aros iechyd cymunedol plant Cymru yn 'anghynaladwy'
Mae amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol plant yng Nghymru yn "anghynaladwy", yn ôl meddygon.
Dyna ganfyddiad adroddiad newydd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.
Mae'r ddogfen yn awgrymu bod "cynnydd sylweddol" mewn amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol plant yng Nghymru, gyda'r galw wedi dyblu mewn rhai byrddau iechyd.
Dywedodd y sefydliad bod hynny'n cynnwys byrddau iechyd Aneurin Bevan, Bae Abertawe, Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi buddsoddi £50 miliwn i helpu byrddau iechyd i fynd i’r afael ag amseroedd aros.
Daw'r adroddiad wedi i'r coleg anfon ceisiadau rhyddid gwybodaeth at fyrddau iechyd yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Mai.
Roedden nhw wedi gofyn am wybodaeth yn ymwneud â’r gweithlu pediatrig cymunedol ac am restrau aros ar gyfer gwasanaethau.
Mae gwasanaethau iechyd cymunedol plant yn darparu gofal iechyd y tu allan i'r ysbyty i blant ag anghenion meddygol cymhleth.
Meddygon plant cymunedol sydd fel arfer yn gyfrifol am arwain y gwasanaethau yma.
'Angen gweithredu nawr'
Yn ôl Dr Nick Wilkinson, swyddog y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yng Nghymru, mae angen i Lywodraeth Cymru "weithredu nawr".
"Mae plant a phobl ifanc yn cael eu hanwybyddu'n rhy aml, gyda gwasanaethau'n canolbwyntio ar y pwysau o fewn y system iechyd oedolion," meddai.
"Er gwaethaf nod Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal yn agosach at adref, mae gwasanaethau cymunedol plant yn parhau i fod heb ddigon o arian, gyda niferoedd annigonol o ymwelwyr iechyd, nyrsys ymataliaeth a therapyddion lleferydd ac iaith.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i flaenoriaethu a buddsoddi mewn gwasanaethau plant – cyn i fwy o fywydau ifanc gael eu heffeithio."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cymryd gwella iechyd plant o ddifrif".
"Rydym wedi buddsoddi £50 miliwn i helpu byrddau iechyd i fynd i’r afael ag amseroedd aros ac wedi gweld gwelliannau mawr mewn therapi iaith a lleferydd ac arosiadau iechyd meddwl plant dros y 12 mis diwethaf," meddai'r llefarydd.
"Ar hyn o bryd rydym yn buddsoddi £294 miliwn mewn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru ac rydym yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod plant yn cael eu cefnogi i gael y dechrau iach gorau i fywyd."
Nifer y plant ar restrau aros ar gyfer meddygon plant cymunedol yng Nghymru
Aneurin Bevan
Cynnydd o 117% – o 150 yn 2015, i 326 yn 2024
Bae Abertawe
Cynnydd o 112% ers 2020 – 0 597, i 1271
Betsi Cadwaladr
Cynnydd o 1,016% – 0 805 yn 2018, i 8,986 yn 2025
Caerdydd a'r Fro
Cynnydd o 302% ers 2018 – o 1,239, i 4,990
Cwm Taf Morgannwg
Gostyngiad o 141 yn 2023, i 135 yn 2025
Hywel Dda
Cynnydd o 4.1% rhwng 2018 a 2025 – 0 1,477, i 1,538
Powys
Mae 119 o blant ar restr aros ar gyfer meddyg plant cymunedol.