Newyddion S4C

'Ni fyddai myfyrwraig yng Nghaerdydd wedi marw pe bai wedi derbyn gofal mwy prydlon'

Bethan James

Ni fyddai myfyrwraig yng Nghaerdydd wedi marw o sepsis pe bai wedi derbyn gofal meddygol brys mwy prydlon, meddai crwner.

Bu farw Bethan James, 21, merch cyn-chwaraewr criced Morgannwg a Lloegr Steve James, ar 8 Chwefror 2020 ychydig oriau ar ôl cael ei derbyn i'r ysbyty.

Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad ei bod wedi marw o sepsis a niwmonia, gyda chymhlethdodau a gafodd eu hachosi gan glefyd Crohn.

Clywodd cwest ym Mhontypridd ddydd Mawrth fod Ms James wedi marw wrth gael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd y fyfyrwraig newyddiaduraeth ym Mhrifysgol De Cymru yn dioddef o broblemau gastroberfeddol a chafodd ddiagnosis o glefyd Crohn yn 2019.

Yn dilyn cwynion ei bod yn fyr ei gwynt, clywodd cwest bod Ms James wedi cael gwrthfiotigau ar gyfer niwmonia ddiwedd mis Ionawr.

Parhaodd ei chyflwr i ddirywio, a chafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Llandochau ddwywaith cyn iddi gael ei derbyn i Ysbyty Athrofaol Cymru ar 8 Chwefror.

Dywedodd Patricia Morgan, crwner ardal Canol De Cymru, fod oedi yn y driniaeth a roddwyd i Ms James ar ôl iddi gyrraedd yr ysbyty.

Wrth ddod i'r casgliad, dywedodd fod criw'r ambiwlans wedi methu â rhoi rhybudd ymlaen llaw i'r ysbyty ynghylch pa mor sâl oedd hi.

Byddai hynny, meddai, wedi arwain at ei derbyn ar unwaith i ardal adfywio'r adran achosion brys.

'Tystiolaeth gref'

Dywedodd Ms Morgan ei bod wedi clywed tystiolaeth gan feddygon sy'n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Roedd hefyd wedi clywed gan y tyst arbenigol Dr Chris Danbury, a dywedodd ei bod wedi'i "pherswadio'n fwy" gan ei dystiolaeth.

"Fe wnaeth Dr Danbury fynegi barn gref y byddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol i Bethan pe bai wedi bod yn destun rhybudd ymlaen llaw a'i derbyn i'r ysbyty ar unwaith," meddai.

"Felly, rwyf wedi fy mherswadio'n fwy gan farn Dr Danbury ar opsiynau triniaeth ac a fyddai triniaeth gynharach wedi gwneud gwahaniaeth.

"Rwy'n teimlo pe bai cydnabyddiaeth gynharach a chamau prydlon mewn ymateb i gyflwr Bethan ar ôl iddi gael ei derbyn gan y gwasanaethau ambiwlans wedi digwydd, byddai hyn wedi arwain at rybudd ymlaen llaw i'r adran achosion brys.

"Byddai hyn wedi arwain at ei derbyn yn uniongyrchol i'r ysbyty, gyda staff clinigol yn aros amdani... a byddai triniaeth gynharach wedi dechrau."

Ychwanegodd: "Ar y cyfan, rwy’n dod i’r casgliad, pe bai’r derbyniad uniongyrchol hwn i'r ardal adfywio a chydnabyddiaeth a thriniaeth brydlon wedi digwydd, yna ni fyddai ataliad ar y galon wedi digwydd pan ddigwyddodd, a fyddai wedi rhoi mwy o amser i arbenigeddau eraill ymwneud â gofal Bethan.

"Ar y cyfan, rwy’n dod i’r casgliad na fyddai Bethan wedi marw."

Dywedodd Ms Morgan wrth deulu Ms James ei bod yn cydymdeimlo â nhw.

"Mae dros bum mlynedd wedi mynd heibio ers i Bethan farw ac nid wyf yn amau ​​bod y boen mor gryf ag yr oedd bryd hynny," meddai.

"Rwy’n siŵr y bydd y dystiolaeth mewn perthynas â marwolaeth Bethan wedi atgyfodi llawer o’ch atgofion trist felly rwyf am fynegi fy nghydymdeimlad ar fy rhan fy hun a gwasanaeth y crwner."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:  "Mae ein cydymdeimladau dwysaf yn parhau gyda theulu ac anwyliaid Bethan yn ystod yr amser anodd hwn.

“Bydd y bwrdd iechyd yn darparu ymateb ysgrifenedig cynhwysfawr i gais y crwner am wybodaeth ychwanegol.

“Nid ydym yn gallu darparu sylwadau pellach nes bod y crwner wedi adolygu’r dystiolaeth atodol.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.