Newyddion S4C

Mabli Cariad Hall: Lleihau dedfryd menyw a wnaeth achosi marwolaeth baban wyth mis oed

Mabli Hall

Mae dedfryd menyw 71 oed a wnaeth achosi marwolaeth babi drwy yrru’n beryglus yn Sir Benfro wedi cael ei lleihau.

Bu farw Mabli Cariad Hall, oedd yn wyth mis oed rhai dyddiau ar ôl cael ei tharo gan gar tra yn ei phram tu allan i Ysbyty Llywnhelyg yn Sir Benfro ar 21 Mehefin 2023.

Plediodd Bridget Curtis yn euog i achosi marwolaeth Mabli drwy yrru’n beryglus ac fe gafodd ei dedfrydu i bedair blynedd o garchar ym mis Ionawr eleni.

Clywodd y llys ar y pryd bod cerbyd Ms Curtis “allan o reolaeth” cyn taro pram Mabli ac fe gafodd lluniau CCTV o’r digwyddiad eu dangos yn y llys yn ogystal.

Roedd hi yr ysbyty yn gollwng ei merch am apwyntiad a gyda’r injan ymlaen, fe wnaeth hi droi ei chefn y car er mwyn ceisio dod o hyd i fag ei merch cyn gwasgu ar y pedal.

Teithiodd y car am 28 metr a chyrraedd cyflymder o 29mya cyn taro Mabli yn ei phram.

Tarodd y car tad Mabli, Rob cyn dod i stop pan wrthdarodd â choeden.

'Gormodol'

Mewn gwrandawiad yn Llys yr Apêl ddydd Mawrth roedd cyfreithiwr Ms Curtis wedi dadlau bod y ddedfryd yn "ormodol" a dywedodd bod yr achos yn un o "ddiffyg canolbwyntio" wrth gyfeirio ar yr hyn ddigwyddodd y tu allan yr ysbyty'r diwrnod cafodd Mabli ei tharo gan y car.

Dyfarniad y tri barnwr oedd bod y ddedfryd yn "ormodol" a chafodd ei leihau i dair blynedd.

Cafodd ei gwaharddiad rhag gyrru ei ymestyn o chwe blynedd i saith mlynedd a hanner.

Wrth leihau'r ddedfryd dywedodd Mr Ustus Butcher: “Mae’n wir nad oedd Ms Curtis yn bwriadu achosi unrhyw niwed, ac mae'n wir hefyd fod y camgymeriad yn un byr o ran hyd, ond roedd y gyrru ymhell dros y trothwy peryglus.

"Diffyg sylw a dryswch ynghylch pa bedal yr oedd hi’n ei wasgu a achosodd y drasiedi hon.”

Ychwanegodd: "Rydym yn adleisio bod hwn yn achos hynod drasig.

"Rydym wedi darllen y datganiadau emosiynol gan rieni Mabli, sydd yn mynegi eu galar wrth golli eu baban annwyl."

Roedd Curtis wedi ymddangos trwy linc fideo o garchar Eastwood Park yn Sir Caerloyw ac yn eistedd mewn cadair olwyn.

'Gwylio ein baban yn marw'

Roedd rhieni Mabli, Rob a Gwen Hall yn eu dagrau wrth ddarllen eu datganiadau yn y llys ar 23 Ionawr eleni.

Dywedodd Mr Hall bod y digwyddiad wedi “newid ein bywyd am byth yn y ffordd fwyaf dinistriol.”

“Wrth i mi geisio codi fy hun [ar ôl y gwrthdrawiad], y cyfan roeddwn i'n gallu ei glywed oedd sgrechian o'm cwmpas," meddai.

“Y peth cyntaf dwi'n ei weld yw pram fy merch o dan y car. Allwch chi ddim dychmygu sut deimlad oedd hwnnw.

“Gwelais gorff difywyd Mabli ym mreichiau rhywun, delwedd arall dw i yn parhau i weld drosodd a throsodd.”

Fe ychwanegodd Mr Hall: “Ni fyddaf byth yn maddau i Bridget Curtis am hyn. 

“Yr unig oedran y dylid ei gymryd i ystyriaeth yn y mater hwn, yw oed fy maban gwerthfawr, diniwed, Mabli Cariad.”

Dywedodd Ms Hall: “Hi yw baban y teulu a bydd hynny'n wir am byth.”

Roedd Ms Hall yn “pledio gyda staff meddygol am ychydig o obaith, ond doedd dim. Fe wnaeth y staff meddygol grio gyda ni.”

“Daeth yr amser ac fe wnaethom wylio ein baban yn marw yn ein breichiau," meddai. "Fe wnaethon ni dreulio amser yn ei chofleidio a’i chusanu.

“Rydym wedi cael dedfryd sydd yn waeth na charchar ac mi fydd hynny gyda ni am byth. Fe orffennais fy nghyfnod mamolaeth heb fy maban.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.