Bachgen 15 oed wedi'i gyhuddo yn dilyn negeseuon ffug am fomiau mewn parc
Mae’r heddlu wedi cyhuddo bachgen 15 oed mewn cysylltiad â honiad bod bom ffug ym Mharc Aberdâr yn y dref.
Fe gafodd y negeseuon honedig eu rhannu ar Facebook ar ddydd Sadwrn Mehefin 14.
Dyw'r bachgen ddim yn gallu cael ei enwi am resymau cyfreithiol.
Mae wedi ei gyhuddo o rannu gwybodaeth am fom ffug ac anfon neges fygythiol a chreu anghyfleustra trwy rwydwaith gymdeithasol.
Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Merthyr Tydfil ar 16 Gorffennaf .
Llun: Parc Aberdâr