Newyddion S4C

Cantores o Wrecsam eisiau trafodaeth agored am heintiau rhyw

Cantores o Wrecsam eisiau trafodaeth agored am heintiau rhyw

Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.

Mae cantores o Wrecsam yn galw am drafodaethau agored am heintiau sy’n cael eu trosglwyddo yn rhywiol ar ôl dal herpes gan ddyn wnaeth ddim dweud wrthi fod ganddo'r feirws. 

Ers ychydig o flynyddoedd bellach mae Melys Edwards, 28 oed, wedi bod yn byw â chyflwr HSV-2, neu herpes. 

Cafodd ei heintio ar ôl cael perthynas rywiol gyda phartner. Wnaeth o ddim dweud wrthi fod ganddo'r feirws.

Roedd Melys yn mynd trwy gyfnod heriol yn ei bywyd yn yr adeg pan gafodd ei heintio wedi iddi gael ei threisio rhai blynyddoedd yn gynharach, meddai wrth siarad â Newyddion S4C. 

Dywedodd ei bod hi’n gwneud “dewisiadau peryglus” o ran y dynion yr oedd hi’n penderfynu cael perthynas â nhw “am flynyddoedd" ar ôl iddi gael ei cham-drin, a hynny mewn ymdrech i geisio “teimlo'n saff".

Yn ôl data mwyaf diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae nifer yr achosion o herpes yr organau cenhedlu (‘genital herpes’) yng Nghymru ar gynnydd. 

Image
Melys Edwards
Melys Edwards

Fe wnaeth hi dreulio blynyddoedd yn teimlo cywilydd am ei chyflwr ond mae bellach yn galw am chwalu’r stigma sydd ynghlwm â heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol (‘STIs’). 

Mae’n dweud ei bod yn hollbwysig siarad yn agored am iechyd rhywiol gyda’ch partneriaid fel y gall pobl gydsynio yn llawn cyn cael perthynas rywiol gyda’i gilydd. 

Os ydy rhywun yn cael ei heintio â herpes, fe fydd y feirws yn bodoli yn eu corff am weddill eu hoes – ond dyw hynny ddim yn golygu eu bod yn dioddef â symptomau trwy’r amser. 

Mae symptomau yn mynd ac yn dod ac fe allai pobl ddioddef briwiau poenus o ganlyniad. Fe allai rhai pobl fynd heb ddioddef unrhyw symptomau o gwbl drwy gydol eu bywyd.

'Newid fy myd'

Saith mlynedd yn ôl, fe gafodd Melys ei threisio gan ddyn yr oedd hi'n ei adnabod.

Roedd y gantores yn gaeth i gyffuriau yn ystod yr adeg yna o’i bywyd a hithau’n brwydro gyda diffyg hyder, gorbryder, iselder a meddyliau tywyll yn ymwneud â hunanladdiad. 

Mae’n dweud bod y profiad o gael ei threisio wedi ei gorfodi i wneud newidiadau i’r ffordd yr oedd hi'n byw. 

“Y peth mwyaf drwg sydd ‘di digwydd iddo fi ‘di helpu fi jyst newid fy byd. Oedd yn basically the catalyst for change,” meddai. 

Ond er ei bod wedi rhoi’r gorau i’w defnydd o gyffuriau a'r nosweithiau allan, roedd hi bellach yn ymwneud â dynion oedd yn ei cham-drin. 

“O’n i’n teetotal, o’n i’n gwneud yoga pob diwrnod o’n i’n gwario gyd o fy amser yn natur ond o’n i dal yn dewis dynion peryglus… O’n i jyst eisiau teimlo’n saff."

Image
Melys Edwards
Mae Melys bellach yn treulio llawer o'i hamser ym myd natur ac mae'n angerddol iawn dros ei diwylliant Cymreig

'Cywilydd'

Yn ddiweddarach fe gafodd Melys berthynas rywiol gyda dyn a wnaeth ei heintio gyda herpes, feirws fydd ganddi am weddill ei bywyd.

Ni chafodd wybod gan ei phartner bod herpes ganddo cyn iddyn nhw gael rhyw, meddai.

Mae’n dweud ei bod wedi cymryd blynyddoedd iddi siarad am ei diagnosis yn agored yn sgil y cywilydd roedd hi’n ei deimlo. 

“Weithiau dwi’n teimlo mae hwn definitely ‘di effeithio fi yn gwaeth na popeth arall," meddai.

“Mae ‘di cymryd blynyddoedd i fi jyst siarad amdan hyn a edrych pobl yn llygaid nhw eto. 

“Oherwydd mae pobl efo shame o gwmpas hyn, maen nhw ddim yn siarad. 

“Ac oherwydd maen nhw ddim yn siarad mae'n ‘neud o’n reit cymhleth i ‘neud i bobl teimlo fel os dwi am cael rhyw gyda’r person yma dwi angen dweud wrthyn nhw cyn.

“Dyna pam mae’r boi ‘ma heb ddweud wrtha fi.” 

Image
Melys Edwards

Codi ymwybyddiaeth

Mae dau fath o herpes, sef HSV-1 a HSV-2. Mae HSV-1 yn gysylltiedig yn bennaf â herpes ar y geg (sef ‘cold sores’) a gall hefyd achosi herpes gwenerol, tra bod HSV-2 yn gysylltiedig yn bennaf â herpes yr organau cenhedlu. 

Mae tua chwech o bob 10 person yn y DU yn byw â HSV-1 erbyn 25 oed, ac mae tua un o bob 10 yn byw â HSV-2, yn ôl gwefan GIG Cymru. 

Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd nifer yr achosion o herpes yr organau cenhedlu wedi cynyddu o 2% yng Nghymru rhwng 2022 a 2023, gyda 1,190 o bobl yn byw â’r cyflwr. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i fod yn “ymwybodol” o unrhyw symptomau y maen nhw’n eu profi gan mai dyma yw’r unig bryd y mae modd gwneud prawf ar gyfer diagnosis.  

"Er nad oes iachâd ar gyfer herpes yr organau cenhedlu, fel arfer bydd modd rheoli unrhyw symptomau gan ddefnyddio meddyginiaeth gwrthfeirysol,” medd llefarydd ar eu rhan.

“Efallai y byddwch hefyd yn gallu trosglwyddo'r feirws hyd yn oed os nad oes gennych symptomau. 

“Byddwn yn annog pobl i gael trafodaethau agored am iechyd a rhyw gyda’u partneriaid.” 

Mae Melys bellach yn defnyddio y cyfryngau cymdeithasol a’r llwyfan i godi ymwybyddiaeth am ei phrofiadau gan annog sgyrsiau agored o’r fath. 

Mae hi hefyd yn cynnig sesiynau fel hyfforddwr bywyd er mwyn helpu pobl eraill i fynd i’r afael ag unrhyw deimladau o gywilydd sydd ganddyn nhw. 

Os ydych chi wedi eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.