Newyddion S4C

Cyn AS gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn pledio'n euog i aflonyddu ar eu cyn-wraig

Cyn AS gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn pledio'n euog i aflonyddu ar eu cyn-wraig

Mae cyn-AS Ceidwadol dros Ben-y-Bont ar Ogwr wedi pledio'n euog i aflonyddu ar eu cyn-wraig.

Cyfaddefodd Katie Wallis, 41, o Butetown, Caerdydd, i "aflonyddu mewn modd di-drais" Rebecca Wallis rhwng mis Chwefror a mis Mawrth eleni.

Roedd Katie Wallis - Jamie Wallis gynt - wedi gadael nifer o negeseuon a nodyn llais i’w cyn-wraig.

Wallis oedd AS Pen-y-bont ar Ogwr o 2019 hyd at 2024.

Yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, derbyniodd y Barnwr Dosbarth Rhys Williams eu ple.

Plediodd Wallis yn euog i adael y negeseuon, ond tynnwyd honiadau o yrru heibio i gartref eu cyn-wraig o'r cyhuddiad.

Bydd Wallis yn ymddangos gerbron y llys ar 14 Gorffennaf i gael eu dedfrydu.

Dywedodd Narita Bahra KC, a oedd yn ymddangos ar ran yr amddiffyniad, nad oedd ei chleient yn dymuno achosi unrhyw loes bellach i'w cyn-bartner na'u teuluoedd.

Hefyd fe ddywedodd Ms Bahra y byddai angen asesiad seiciatrig ac adroddiad cyn dedfrydu.

Ychwanegodd y byddai hyn yn archwilio pa effaith yr oedd newid rhywedd Wallis wedi ei gael ar eu hiechyd meddwl yn ystod cyfnod y troseddau.

Cyrhaeddodd Wallis, a oedd yn gwisgo cardigan du dros grys gwyn, yn hwyr i'r llys, ar ôl aros i'r wasg fynd i mewn i'r llys cyn iddynt wneud hynny.

Siaradodd y diffynnydd i gadarnhau eu manylion a chyflwyno eu ple yn unig.

Dywedodd Wallis: “Fy enw dewisol yw Katie, ond fy enw cyfreithiol yw Jamie hyd heddiw.”

Rhyddhawyd Wallis ar fechnïaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.