
'Mor drist': Profiad gwirfoddolwr achub mynydd o ddarganfod dau gorff yn yr un ceunant yn Eryri
Mae gwirfoddolwr achub mynydd wedi siarad am ei brofiad "trist" o fod yn rhan o dîm wnaeth ddarganfod dau gorff yn yr un lle yn Eryri.
Ym mis Mai y llynedd roedd Paul Terry yn chwilio am David Brookfield o Sir Gaerhirfryn aeth ar goll ar y Carneddau bedair mis ynghynt.
Y gred yw bod y dyn 65 oed wedi mynd i mewn i geunant lle syrthiodd a chael ei anafu'n ddifrifol wrth iddo gerdded i lawr o gopa Pen yr Ole Wen yn Nyffryn Ogwen.
Ar 10 Mai 2024 fe ddaeth criwiau hofrennydd Gwylwyr y Glannau o hyd i gorff David wrth gynnal ymarfer hyfforddi yn Nyffryn Ogwen.
Ac wrth fynd i gasglu ei gorff o Ben yr Ole Wen, fe ddaeth gwirfoddolwr o hyd i gliwiau a arweiniodd at ddarganfod corff arall gerllaw.
Tua 12 mlynedd ynghynt, roedd meddyg o ardal Stoke-on-Trent, Shane Colaco, hefyd wedi bod yn cerdded ym mynyddoedd y Carneddau cyn mynd ar goll.

Dywedodd Paul Terry a fu'n rhan o'r tîm a ddaeth o hyd i gyrff y ddau ddyn ei fod wedi cofio am ddiflaniad Shane Colcao dros 10 mlynedd yn ôl wrth chwilio'r ceunant.
"Wrth i'r peilot drôn aros yn y llecyn lle'r oedd gweddillion David yn gorwedd digwyddodd rhywbeth anhygoel," meddai.
"Tra roedden ni'n ymchwilio i farwolaeth David, daeth aelod o'r tîm achub mynydd o hyd i siaced tua phum metr ymhellach i lawr y ceunant.
"Nid oedd y siaced yn cyd-fynd â'r llun o'r person yr oeddem yn chwilio amdano. Roedd hi'n siaced hŷn, un a oedd yn ymddangos fel pe bai wedi bod yno ers peth amser a thu mewn i'r boced roedd goriad car.
"Yn ddwfn yng nghof y tîm achub hwn roedd hanes Shane Calaco, a oedd wedi mynd ar goll yn yr un ardal 12 mlynedd ynghynt."

Ychwanegodd: "Roeddwn i'n sylweddoli bod y siaced yn debyg iawn i'r un yr oedd Shane Colaco yn ei wisgo ar y diwrnod yr aeth ar goll, ac yn dilyn ymchwiliadau pellach, llwyddon ni i gadarnhau mai'r goriad yn y boced oedd y goriad i gar Shane, sef Fiat Seicento.
"Yn sydyn, fe wnaethon ni sylweddoli efallai ei fod wedi bod yn gorwedd yno yr holl amser."
Ar ôl darganfod eiddo Shane Colcao, roedd y gweithredwr drôn achub mynydd arbenigol wedi cynnal ymchwiliad pellach ar Ben yr Ole Wen gan ddod o hyd i'w gorff gerllaw.
"Yr hyn sydd mor anhygoel am y stori hon yw bod cynifer o'r bobl a fu'n chwilio am David hefyd wedi bod yn rhan o'r chwilio am Shane 12 mlynedd ynghynt," meddai Paul Terry, sydd hefyd yn gweithio yn Uned Dronau Heddlu Gogledd Cymru.
"Roedd un o'r dynion a ddaeth o hyd i David gyda'r hofrennydd hefyd yn rhan o Sgwadron RAF 22 a fu'n chwilio am Shane.
"Dyma ddwy stori drist iawn ond dwy stori sy'n dangos ymroddiad y gwirfoddolwyr a'r gwasanaethau brys i ddod o hyd i'r ddau ddyn."
'Byddwch yn barod'
Mae Paul Terry yn erfyn ar bobl i fod yn ymwybodol o'r peryglon wrth gerdded mynyddoedd Eryri.
Fe allai'r tywydd newydd yn sydyn, ac amodau troi'n anffafriol wrth gerdded i fyny neu i lawr ar dirwedd sydd yn gallu bod yn ansefydlog neu'n anwastad.
"Mae bob amser yn bosibl y bydd rhywbeth yn mynd o'i le," rhybuddiodd.
"Mae Eryri yn lle anhygoel, mae'n brydferth, ac ar ddiwrnod da, mae'r mynyddoedd yn edrych yn bosib i'w dringo ac yn hygyrch. Ond mae'n bwysig deall maint y mynyddoedd hyn ac effaith y tywydd – a pha mor gyflym y gall y tywydd newid.
"Yn y ddau achos hyn, roedd David a Shane wedi cael eu dal ar dir peryglus iawn, a oedd o bosib yn edrych yn iawn o'r copa, ond oedd yn mynd yn anoddach wrth gerdded i lawr.
"Ac felly, mae gen i neges syml iawn i bawb - byddwch yn barod."