Yr Arlywydd Trump yn gadael uwch-gynhadledd yr G7 yn gynnar
Mae'r Arlywydd Trump wedi gadael uwch-gynhadledd yr G7 yng Nghanada yn gynnar yn sgil y sefyllfa yn y Dwyrain Canol.
Fe gadarnhaodd y Tŷ Gwyn y bydd yn gadael y cyfarfod "fel bod modd iddo fod yn bresennol mewn sawl mater pwysig".
Mae'r G7 wedi rhannu datganiad ar y cyd yn dweud fod gan Israel yr hawl i amddiffyn ei hun ac mai Iran sy'n gyfrifol am yr holl ansicrwydd yn y Dwyrain Canol.
Dywedodd yr Arlywydd Trump y dylai "pawb" adael prifddinas Iran, Tehran, yn syth wrth i'r ymladd barhau yno.
Ychwanegodd mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol na all Iran "gael arfau niwclear".
Fe wnaeth Iran ac Israel barhau i ymladd dros nos, gydag Israel yn dweud ddydd Llun ei fod wedi ymosod ar adeiladau cyfryngau Iran yn Tehran, gyda'r ymosodiadau wedi'u recordio ar deledu byw.
Mae gweinyddiaeth iechyd Iran yn dweud fod o leiaf 224 o bobl wedi'u lladd ers ymosodiadau Israel ddydd Gwener.
Mae Mr Trump wedi gofyn i'w Gyngor Diogelwch Cenedlaethol i ddod at ei gilydd, ond nid yw'r Unol Daleithiau yn bwriadu ymuno ag ymosodiad Israel ar Iran, yn ôl swyddogion y wlad.