ASau i bleidleisio ar welliannau i gyfraith a fyddai'n golygu 'nad yw erthylu yn drosedd'
Bydd ASau yn cael pleidlais ddydd Mawrth ar welliannau i gyfraith a fyddai'n ei gwneud hi'n gyfreithlon i erthylu ar unrhyw adeg o feichiogrwydd petai'r fam yn dewis.
AS Gŵyr Tonia Antoniazzi sydd wedi cyflwyno'r gwelliannau, gyda'r AS Stella Creasy yn cyflwyno rhai hefyd.
Mae'r gwelliannau yn cael eu trafod fel rhan o ddiwygio'r Bil Trosedd a Phlismona.
Mae'r ymgais ddiweddaraf yn dilyn galwadau dro ar ôl tro i ddiddymu adrannau o gyfraith Oes Fictoria.
Y nod ydy ei gwneud yn gyfreithiol i erthylu ar unrhyw adeg o'r beichiogrwydd petai'r fam yn dewis ac osgoi'r bygythiad o ymchwiliad neu garchar.
Ar hyn o bryd, mae'r gyfraith bresennol yng Nghymru a Lloegr yn datgan fod erthyliad yn drosedd ond yn gyfreithlon hyd at 24 wythnos.
Dim ond amgylchiadau cyfyngedig iawn sy'n cael ei ganiatáu i gael erthyliad ar ôl y cyfnod yma, gan gynnwys os ydy bywyd y fam yn y fantol neu pe bai'r plentyn yn cael ei eni gydag anabledd difrifol.
Roedd ASau i fod i drafod gwelliannau tebyg ond ni chafodd y rhain eu cynnal wedi i Senedd San Steffan gael ei diddymu yr haf diwethaf oherwydd yr Etholiad Cyffredinol.
Wrth siarad ar drothwy'r drafodaeth, dywedodd Tonia Antoniazzi y byddai ei gwelliannau hi yn arwain at "gael gwared ar unrhyw fygythiad o ymchwiliad, arest, erlyniad neu garchar" yn ymwneud ag unrhyw ddynes sy'n gweithredu mewn cysylltiad â'u beichiogrwydd.
Ychwanegodd fod achosion o ferched yn wynebu ymchwiliad gan yr heddlu wedi ei hysgogi hi i geisio sicrhau newid yn y gyfraith.
Yn ôl y data mwyaf diweddar, fe gafodd 252,122 o erthyliadau eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn 2022, y nifer uchaf ers i ddata gael ei gasglu.
Mae Cymdeithas Diogelu Plant yn y Groth (SPUC) wedi annog ASau i bleidleisio yn erbyn y diwygiadau, gan ddweud y byddan nhw yn arwain at “yr ehangiad mwyaf o erthyliad ers 1967”.
Mewn dadl yn Senedd San Steffan yn gynharach yn y mis, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Alex Davies-Jones fod y Llywodraeth yn niwtral ar wneud erthyliad yn gyfreithlon, ac ei fod yn fater i'r Senedd.