Newyddion S4C

Gwynedd: Gwrthod cynlluniau am lety gwyliau ger capel enwog

Capel Salem

Mae cynlluniau ar gyfer llety gwyliau ger un o gapeli mwyaf enwog Cymru yng Ngwynedd wedi cael eu gwrthod.

Roedd Chris Bennett o gwmni Cymru Lan ar Ynys Môn eisiau dymchwel pedwar o'r pum adeilad ym Mhentre Gwilym yn Llanbedr er mwyn codi wyth pod glampio.

Mae'r lleoliad 60 metr o Gapel Salem. Mae'r capel hwnnw yn enwog wedi i'r artist Curnow Vosper greu llun o fenyw yn sefyll yn y capel mewn gwisg Gymreig a’r diafol yn ei siôl yn 1908.

Roedd Mr Bennett yn wreiddiol wedi cyflwyno cynlluniau yn 2020 i godi safle sy’n storio cyrff anifeiliaid ger y capel hanesyddol.

Cafodd hynny ei wrthod cyn i ffermwyr lleol a'r Parc Cenedlaethol apelio yn erbyn y penderfyniad, ond ni chafodd y safle storio cyrff anifeiliaid erioed ei adeiladu.

Image
NS4C
Darluniau 'Salem' gan Curnow Vosper ar wal y capel

Mae swyddogion cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwrthod cynlluniau diweddar Mr Bennett i godi podiau glampio, gan ddweud y byddai'n cael "effaith niweidiol" ar y tirlun.

Mae hynny'n groes i argymhelliad Cyngor Cymuned Llanbedr.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Awdurdod, Jonathan Cawley: "Nid yw'r cynnig yn rhan o'r cynllun arallgyfeirio amaethyddol nac yn ategol i atyniad twristaidd presennol.

"O ganlyniad mae'n groes i Bolisi Datblygu 29 o Gynllun Datblygu Lleol Eryri."

Roedd asiant Chris Bennett, Richard Carter wedi dadlau na fyddai yna gynnydd mewn traffig a byddai newid defnydd yr adeilad yn gallu cael ei ystyried fel arallgyfeirio gan fod rhywfaint o'r tir wedi bod at ddefnydd amaethyddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.