Newyddion S4C

Caerdydd yn penodi Brian Barry-Murphy fel rheolwr newydd

Caerdydd yn penodi Brian Barry-Murphy fel rheolwr newydd

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi penodi Brian Barry-Murphy fel ei rheolwr newydd.

Ar ôl dros saith wythnos o chwilio, rheolwr cynorthwyol presennol Caerlŷr sydd am gymryd y rôl fel olynydd Omer Riza.

Mae’r gŵr o Iwerddon wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r Adar Gleision tan 2028.

Tan yn ddiweddar mae'r gŵr 46 oed wedi bod yn aelod o dîm rheoli Ruud van Nistelroy yng Nghaerlŷr.

Mae ganddo hefyd brofiad o weithio gyda'r ieuenctid wedi ei gyfnod yn rheoli Tîm Datblygu Elite Manchester City o dan Pep Guardiola. Enillodd ddwy bencampwriaeth 'Uwch Gynghrair Lloegr 2' ac aeth ati i ddatblygu chwaraewyr fel Cole Palmer.

Cafodd ei ganmol hefyd am fabwysiadu dull deniadol o chwarae yn ystod ei gyfnod yn Rochdale, ei flas cyntaf ar fod yn rheolwr.

Wrth siarad am y penodiad, dywedodd perchennog clwb Caerdydd Tan Sri Vincent Tan: “Hoffwn groesawu Brian i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Rydym wrth ein bodd ei fod wedi cytuno i fod yn Brif Hyfforddwr.

"Mae ganddo record sydd wedi ei phrofi wrth ddatblygu'r ieuenctid wedi iddo hyfforddi rhai o'r chwaraewyr ifanc gorau yn y DU, gyda nifer o'r rhain bellach yn chwarae ar dop eu gêm."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.