Newyddion S4C

Teulu’n 'rhwystredig' bod dim datblygiad yn achos llofruddiaeth eu brawd yn Benidorm

Y Byd ar Bedwar

Teulu’n 'rhwystredig' bod dim datblygiad yn achos llofruddiaeth eu brawd yn Benidorm

Mae teulu o Bontypridd yn “rhwystredig” gyda’r diffyg datblygiadau yn achos llofruddiaeth eu brawd yn Benidorm.

Bu farw Nathan Osman, 30, ar wyliau ym mis Medi llynedd.

Ar ôl i’r teulu gasglu tystiolaeth eu hunain, ail-agorwyd yr achos fel llofruddiaeth ond mae’r teulu’n dweud nad oes unrhyw ddatblygiadau wedi bod mewn tri mis.

Nid yw heddlu Benidorm yn gallu gwneud sylw gan fod yr ymchwiliad yn dal i fynd yn ei flaen. 

“Mae e mor rhwystredig bod dim datblygiad na dim atebion," meddai Lee Evans, brawd Nathan, wrth raglen Y Byd ar Bedwar.

“Ry’n ni wedi gwneud y gwaith iddyn nhw. Ma’ nhw wedi bod yn ofnadwy.”

Wrth ddychwelyd i Benidorm dywedodd Lee a’i chwaer, Alannah, fod y naw mis diwethaf “wedi bod yn hunllef”.

“Dy’n ni heb gael unrhyw help, unrhyw gefnogaeth o’r awdurdodau,” meddai Alannah Hughes.

“Ni sydd wedi gorfod brwydro am dystiolaeth ac am atebion, ond mae dal gymaint dy’n ni ddim yn ei wybod.”

Image
Mae’r naw mis diwethaf heb Nathan wedi bod “yn hunllef” yn ôl Lee, ei frawd.
Mae’r naw mis diwethaf heb Nathan wedi bod “yn hunllef” yn ôl Lee, ei frawd.

Roedd Nathan ar wyliau gyda’i ffrindiau pan gafodd ei gorff ei ddarganfod ar waelod clogwyn yn Benidorm. Roedd e’n dad balch i bedwar o blant o Bontypridd.

Mae’n bosib ei fod wedi cwympo 500 troedfedd i’w farwolaeth.

“Pam bydde Nathan wedi dod lan fan hyn?”, meddai Lee wrth ail-ymweld â’r mynydd lle maent yn credu y cwympodd Nathan.

“Doedd dim rheswm gyda fe ddod i’r man anghysbell a dieithr yma, yn enwedig yn y nos.”

Roedd Nathan wedi bod allan gyda’i ffrindiau ar y strip yn Benidorm, cyn gadael ar ei ben ei hun gan ei fod yn aros mewn gwesty arwahan i’w ffrindiau.

Ar ôl mynd trwy oriau o luniau CCTV cyhoeddus yn y ddinas, fe ddaeth Lee o hyd i Nathan yn cerdded ar hyd y traeth am 4.00 y bore, i gyfeiriad gwahanol i’w westy.

“Doedd e ddim yn ymddangos yn feddw na bod neb yn ei ddilyn e, sy’n gwneud yr holl beth hyd yn oed yn fwy o ddirgelwch,” meddai Lee o Bontypridd.

Yn wreiddiol, fe ddaeth yr heddlu yn Benidorm i’r casgliad ei fod wedi cyflawni hunanladdiad, ond roedd y teulu’n anghytuno.

“Roedd ’na ddau ymgais i ddefnyddio’r gerdyn banc y diwrnod canlynol. Roedd lluniau ohono gyda’i ffrindiau yn mwynhau drwy’r nos.

“Ro’n i’n gwybod yn syth nad oedd hynny’n wir a bod rhywbeth tipyn mwy difrifol wedi digwydd.”

Ar ôl casglu tystiolaeth eu hunain, oedd yn cynnwys gwybodaeth o’i ffôn a llinell amser o noson olaf Nathan, fe ail-agorwyd yr ymchwiliad fel un i lofruddiaeth.

 

Image
 Lee ac Alannah yn dychwelyd i’r fan lle credir i Nathan Osman gwympo 500 troedfedd i’w farwolaeth
Lee ac Alannah yn dychwelyd i’r fan lle credir i Nathan Osman gwympo 500 troedfedd i’w farwolaeth

Galw am gefnogaeth i deuluoedd sy’n profi colled dramor

Mae’r teulu nawr yn ymgyrchu am gyfraith newydd fyddai’n rhoi mwy o gefnogaeth i deuluoedd pan fydd aelod o’r teulu’n cael eu lladd dramor.

Cafodd eu galwadau eu codi ar lawr Tŷ’r Cyffredin gan eu haelod Seneddol lleol, Alex Davies-Jones.

“Ein gobaith ni yw cael strwythur mewn lle i deuluoedd pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le,” meddai Alannah. “Strwythur o’dd ddim ar gael i ni.”

Byddai’r ddeddf newydd yn rhoi hawl cyfreithiol at gymorth ariannol i deuluoedd; rhywbeth mae’r teulu’n dweud fyddai wedi bod o fantais iddyn nhw gan iddyn nhw dalu £7000 i gael corff Nathan adref.

Hefyd, byddai’r ddeddf yn creu pwynt cyswllt cyson rhwng y Swyddfa Dramor â’r teulu i’w diweddaru, rhoi cyngor drwy achos cyfreithiol a gwella’r berthynas rhwng awdurdodau Prydain a thramor.

“Ro’dd Nathan yn dad, yn frawd, yn fab, yn berson arbennig”, meddai Alannah.

“Unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i gofio amdano ac i frwydro am gyfiawnder, fe fyddwn i’n gwneud hynny.”

Yn ôl y Swyddfa Dramor, mae’n nhw’n rhoi cymorth personol i achosion fel hyn, sy’n cynnwys gwybodaeth ymarferol am brosesau dramor.

Bydd rhaglen Y Byd ar Bedwar: Damweiniau dros y dŵr ar S4C nos Lun am 8yh.

Prif Lun: Lee ac Alannah, brawd a chwaer Nathan, yn ail-ymweld â Benidorm i geisio canfod atebion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.