Enwi dwy fu farw mewn pyllau dŵr ger yr Wyddfa
Mae dwy ddynes a fu farw ar ôl cael eu darganfod mewn pyllau dŵr ger yr Wyddfa nos Fercher wedi eu henwi.
Dywedodd Crwner Gogledd Cymru mai Haleema Zahid, 25 oed a Hajra Zahid, 29 oed oedd enwau’r ddwy fu farw ar 11 Mehefin.
Fe gafodd yr heddlu eu galw am 21:31 ddydd Mercher yn dilyn adroddiad bod un ddynes wedi cael ei thynnu allan o’r dŵr, a bod dynes arall yn y dŵr yn y pyllau ger Llwybr Watkin.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw i’r ardal, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, yr Ambiwlans Awyr ac hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau.
Fe gafodd yr ail ddynes ei thynnu allan o’r dŵr, ond er gwaethaf ymdrechion pawb, bu farw'r ddwy yn y fan a’r lle, medden nhw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andy Gibson o Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimladau dwysaf gyda theuluoedd a ffrindiau’r ddwy.
“Mae ymchwiliad ar y gweill er mwyn darganfod yr hyn a ddigwyddodd.
"Mae ymchwiliad yn parhau i ddarganfod yr hyn a ddigwyddodd. Rydym yn apelio am unrhyw un a oedd yn cerdded yn ardal Llwybr Watkin rhwng 18:00 a 21:00 neithiwr i gysylltu â ni drwy'r wefan neu drwy ffonio 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 25000480868.”
Dywedodd Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, Jurgen Dissmann: “Ar ran Tîm Achub Mynydd Llanberis, estynnwn ein cydymdeimladau dwysaf i deuluoedd a chyfeillion y ddwy fenyw a gollodd eu bywydau.
“Roedd hon yn alwad gymhleth ac anodd i’r tîm a hoffem ddiolch i’n cydweithwyr o’r gwasanaethau brys a Thîm Achub Mynydd Aberglaslyn am eu cefnogaeth barhaus a’u cymorth yn ystod yr alwad hon.”
Mae disgwyl i gwestau i farwolaethau'r menywod gael eu hagor yng Nghaernarfon, ddydd Mercher, 18 Mehefin.