Newyddion S4C

'Sicrwydd' y bydd ysgol fwy ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Llanelli

Ysgol Heol Goffa

Mae cynghorwyr wedi cytuno mai adeiladu ysgol newydd mwy o faint yw'r nod wrth sicrhau dyfodol ysgol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol  yn Llanelli.

Cytunodd cabinet Sir Gaerfyrddin ddydd Llun i edrych ar ddau opsiwn ar gyfer dyfodol Ysgol Heol Goffa y dref - un yn ysgol 150 o ddisgyblion ac un arall yn ysgol ar gyfer 250 o ddisgyblion.

Fe wnaethon nhw gytuno i ddiystyru'r opsiynau eraill a oedd yn cynnwys adnewyddu'r ysgol bresennol sy'n llai o faint, ac adeiladu ysgol arbennig newydd sydd â'r un nifer o leoedd.

Mae lle i 75 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol yn Llanelli, ond mae dros 120 yno ar hyn o bryd.

“Pa un bynnag o'r opsiynau hyn sy’n cael eu derbyn, bydd yr ysgol newydd yn welliant ar yr hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol, sef ysgol i 120 o ddisgyblion,” meddai'r aelod o’r cabinet dros addysg, Clynnog Davies.

“Y sicrwydd rwy'n ei roi heddiw i gynghorwyr yw y bydd ysgol newydd, ysgol fwy, yn cael ei hadeiladu yn Llanelli, a bydd hyn yn welliant ar y cynlluniau gwreiddiol.”

'Cyfrifoldeb'

Mae rhieni'r disgyblion yn yr ysgol sydd ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol wedi galw am ysgol newydd ers tro.

Dywedodd y cyngor y llynedd nad oedden nhw’n gallu parhau â'i gynlluniau presennol i adeiladu ysgol arbennig newydd yn Llanelli, i gymryd lle ysgol bresennol Ysgol Heol Goffa, oherwydd pwysau ariannol.

Ond ar ôl ymgyrch gan rieni fe wnaethon nhw benodi David Davies, cyn-bennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant Cyngor Bro Morgannwg, i arwain adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth arbenigol bresennol.

Roedd yr adolygiad a gafodd ei gyflwyno ym mis Chwefror wedi ystyried chwe opsiwn ar gyfer dyfodol yr ysgol, gan gynnwys adnewyddu'r ysgol bresennol ac adeiladu ysgol arbennig newydd.

Ddydd Iau penderfynodd Cabinet y cyngor i ystyried dwy o’r chwe opsiwn a fyddai yn golygu adeiladu ysgol newydd.

Clywodd y cabinet y gallai'r ysgol newydd gostio hyd at £58m.

Wrth eilio'r cynnig dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny bod cost ysgol newydd yn “dod a dŵr i’r llygaid”.

“Fel yr aelod y cabinet dros adnoddau, rhaid i mi atgoffa fy nghyd-aelodau o'r Cabinet fod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol o bwysau ariannol enfawr,” meddai.

“Mae gennym ni gyfrifoldeb nid yn unig i drethdalwyr y cyngor yn y sir hon yn ei chyfanrwydd, ond hefyd i rieni a disgyblion mewn ardaloedd eraill lle mae galw am ysgolion newydd hefyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.