Damwain Air India: Teulu dyn o Gymru fu farw yn galw am fwy o gymorth
Mae teulu dyn o Gymru fu farw yn namwain awyren Air India yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnig mwy o gefnogaeth.
Bu farw Akeel Nanabawa o Gasnewydd, ei wraig Hannaa Vorajee a'u plentyn pedair oed Sara yn y ddamwain dydd Iau diwethaf.
Fe gafodd Mr Nanabawa ei fagu yng Nghasnewydd, cyn symud i fyw i Sir Gaerloyw gyda’i deulu.
Un person yn unig oedd wedi goroesi o'r 242 person oedd ar yr awyren Boeing 787 Dreamliner a oedd newydd gychwyn ei thaith o Ahmedabad i faes awyr Gatwick.
Roedd 53 person o Brydain ymysg y meirw.
Mae teulu Akeel wedi teithio i India ac yn dweud nad oes cymorth iddyn nhw yno.
"Does dim arweiniad yma gan y DU, dim tîm meddygol, dim swyddogion arbennig yn yr ysbyty i helpu ni drwy hyn," meddai llefarydd ar ran y teulu.
"Rydym yn cael ein gorfodi i wneud apwyntiadau i weld staff conswlaidd sydd wedi eu lleoli 20 munud i ffwrdd mewn gwesty.
"I gyd tra bod ein hanwyliaid yn gorwedd heb eu cydnabod yn ffurfiol mewn ysbyty sydd heb ddigon o adnoddau."
Dywedodd aelod arall o'r teulu: "Nid ydym yn gofyn am wyrthiau - rydym yn gofyn am bresenoldeb, tosturi a gweithredu.
"Ar hyn o bryd, rydym ni'n teimlo ein bod ni ar ein pennau ein hunain."