Newyddion S4C

Powys: Person yn yr ysbyty gydag anafiadau all newid ei fywyd yn dilyn gwrthdrawiad

16/06/2025
A483 ger Llanbister

Mae person yn yr ysbyty gydag anafiadau all newid ei fywyd yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys yr wythnos diwethaf.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ymateb i wrthdrawiad ar yr A483 rhwng Llanbister a Llanbadarn Fynydd tua 16:30 ddydd Iau.

Roedd y gwrthdrawiad dau gerbyd yn cynnwys Ford Ranger a Renault Captur.

Dywedodd swyddogion bod person yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau all newid ei fywyd. 

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad, gan gael ei hailagor am 03:40 ddydd Gwener.

Mae'r heddlu bellach yn apelio am wybodaeth er mwyn ceisio deall amgylchiadau'r digwyddiad.

Dylai unrhyw un oedd yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau dashcam, gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25*483595.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.