
'Trysor arbennig': Copi o'r Beibl Cymraeg cyntaf yn dod i Gymru
Bydd copi prin o’r Beibl cyntaf i gael ei gyfieithu i’r Gymraeg yn 1588 yn cael ei arddangos yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.
Mae'r Beibl wedi ei ddisgrifio fel “trysor arbennig” i’r iaith Gymraeg a’r diwylliant.
Mae’r copi, sydd yn 26cm o hyd, wedi cael ei gadw yng nghasgliad llyfrgell Abaty Westminster yn Llundain – ond fe fydd nawr yn cael ei arddangos yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Sir Benfro.
Cafodd y Beibl hanesyddol ei gyfieithu gan yr Esgob William Morgan fel rhan o ymgyrch ar y pryd i sicrhau mynediad i bobl at y grefydd yn eu hiaith eu hunain.
Yn ôl y Gwir Parchedig Dorrien Davies, Esgob Tyddewi, “trysor arbennig o’r iaith Gymraeg” yw'r Beibl.
Dywedodd ei fod yn “anrhydedd” i gadw’r Beibl yn yr Eglwys Gadeiriol am gyfnod.
Dywedodd Deon Tyddewi, y Barchedig Dr Sarah Rowland ei fod yn “addas” mai Tyddewi yw’r ardal gyntaf yng Nghymru i’r Beibl ymweld ag ef, i “gartref ein nawddsant, wrth ein calon ysbrydol.”
Ychwanegodd ei bod yn awyddus i gael rhannu Y Beibl Cyssegr-Lan o 1588 gyda Christnogion Cymreig “o bob traddodiad” yn ystod yr ymweliad.

Taith hanesyddol
Ganwyd yr Esgob William Morgan yn Nhŷ Mawr Wybrnant ym Mhenmachno, Conwy ac fe ddaeth yn Esgob Llandaf ac Esgob Llanelwy yn ddiweddarach.
Roedd yn rhaid iddo deithio i Lundain er mwyn bod yn rhan o’r broses o gynhyrchu’r Beibl gan nad oedd gweithwyr oedd yn rhoi’r llyfr at ei gilydd yn gallu siarad Cymraeg.
Roedd yr Esgob Morgan yn aros gyda’i ffrind o Gymru, Gabriel Goodman, oedd yn Ddeon Abaty Westminster ar y pryd.
Penderfynodd yr Esgob Morgan y byddai’n rhoi’r Beibl i’w ffrind fel anrheg ac y byddai’n cael ei gadw yn llyfrgell yr abaty.

“Ac mae wedi bod yn ein llyfrgell ers hynny,” meddai’r llyfrgellydd a phennaeth casgliad yr Abaty, Dr Tony Trowles.
“Dyma fydd y tro cyntaf iddo fynd i Gymru a ‘da ni’n meddwl mai hwn ydy’r tro cyntaf iddo gael ei arddangos hefyd.”
Bydd y Beibl hanesyddol yn cael ei gyflwyno yn ystod cynhadledd arbennig yn Nhyddewi ar 17 Mehefin.
Fe fydd yn cael ei arddangos yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi o ddydd Mawrth ymlaen, hyd at 9 Gorffennaf.
Lluniau: Yui Mok/PA Wire