Cost trosedd cefn gwlad yng Nghymru wedi codi 'bron 20%'
Mae cost trosedd cefn gwlad yng Nghymru wedi codi "bron 20%" yn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.
Yn ôl adroddiad diweddar gan NFU Mutual, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd yng nghost troseddau cefn gwlad y llynedd o gymharu â 2023.
£2.8 miliwn oedd y gost yn 2024, sydd yn £400,00 yn fwy na 2023, sef cynnydd o 18%.
Ar draws y DU mae'r gost wedi disgyn i £44.1 miliwn y llynedd, sef gostyngiad o £8.7 miliwn o gymharu gyda 2023.
Beiciau cwad oedd yn boblogaidd gan ladron, ond roedd hefyd sawl adroddiad o ddwyn trelars a da byw ar draws Cymru a'r DU.
'Nosweithiau di-gwsg'
Yn ogystal â'r golled ariannol roedd y sawl a gafodd eu holi wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi cael eu heffeithio.
Dywedodd 96% bod troseddau cefn gwlad yn cael effaith negyddol ar eu lles meddyliol.
Yn ôl Owen Suckley, rheolwr rhanbarth Cymru NFU Mutual mae cymunedau cefn gwlad yn ofni'n gyson lladradau.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld troseddau cefn gwlad yn dod yn fwy trefnus, difrifol a pharhaus o ran natur, gyda lladron yn barod i wneud popeth posib i gael yr hyn maen nhw eisiau, ac yn anffodus mae hyn wedi parhau yn 2024," meddai.
“Mae troseddau cefn gwlad yn mynd ymhell y tu hwnt i amharu ar waith fferm ac effeithio ar gynhyrchu bwyd.
"Mae ganddo effaith wirioneddol ar iechyd meddwl ffermwyr a'u teuluoedd, gan achosi straen difrifol a nosweithiau di-gwsg wrth i'r gymuned wledig fyw mewn ofn y gallai'r rhai sy'n gyfrifol ddychwelyd."
Mae NFU Mutual yn erfyn ar ffermwyr i gymryd camau diogelwch er mwyn ceisio rhwystro lladron.
Mae'r rhain yn cynnwys cloi gatiau, peidio gadael allweddi mewn cerbydau, gosod camerâu cylch cyfyng a gosod GPS ar gerbydau.