Newyddion S4C

S4C a TG4 yn partneru i ddarlledu un o gemau’r Llewod yn fyw yn y Gymraeg a’r Wyddeleg

Jac Morgan y Llewod

Mae S4C wedi partneru gyda’r darlledwr TG4 o Iwerddon gan olygu y bydd un o gemau taith y Llewod yn cael ei darlledu yn fyw yn y Gymraeg a’r Wyddeleg.

Bydd y darlledwyr yn cydweithio i ddod â darllediad rhad ac am ddim o gêm gyntaf erioed y Llewod yn Iwerddon, a hynny yn erbyn yr Ariannin.

Dyma fydd y cyd-gynhyrchiad chwaraeon cyntaf rhwng y ddau ddarlledwr cyhoeddus.

Bydd gêm agoriadol Taith 2025 yn digwydd yn Stadiwm Aviva yn Nulyn ar ddydd Gwener 20 Mehefin am 20:00.

Dywedodd Ben Calveley, Prif Weithredwr Llewod Prydain ac Iwerddon ei fod yn “wych” bod eu gêm gyntaf erioed yn Iwerddon am gael sylwebaeth yn y Gymraeg a'r Wyddeleg.

"Ac mi fydd y bartneriaeth ddiweddaraf hon yn dod â chefnogwyr hyd yn oed yn agosach at y digwyddiad wrth i ni gychwyn ar beth sy'n sicr o fod yn daith gofiadwy o Awstralia."

Bydd S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau estynedig o bob gêm.

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno gêm fyw gyntaf y Llewod yn erbyn Yr Ariannin yn Nulyn ynghyd â chyn-chwaraewyr y Llewod, Jamie Roberts a Dwayne Peel. Lauren Jenkins fydd yn gohebu, gyda Gareth Charles a Gwyn Jones yn ôl yn sylwebu.

Dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C: "Rydym yn falch iawn i ddod â darllediad byw o gêm agoriadol Taith Llewod Prydain ac Iwerddon 2025 yn ecsgliwsif ac am ddim i gynulleidfaoedd yng Nghymru a ledled y DU ar S4C.

"Mae'r gêm hanesyddol hon yn nodi'r tro cyntaf i'r Llewod chwarae yn Iwerddon, ac rydym yn falch iawn i weithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn TG4 ar y darllediad.”

Dywedodd Rónán Ó Coistealbha, Pennaeth Chwaraeon TG4: "Mae TG4 yn falch iawn o fod yn rhan o gêm Llewod Prydain ac Iwerddon ar 20 Mehefin.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'n partneriaid yn S4C i ddarparu profiad gwylio arbennig ar deledu ac ar-lein.

"Dyma gyfle gwych i arddangos rygbi ar lefel uchel a dathlu cysylltiad cryf rhwng ein cenhedloedd drwy chwaraeon."

Llun: Y Llewod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.