Newyddion S4C

Angen gweithredu yn erbyn bygythiadau 'cynyddol' i wleidyddion, medd Adam Price

Adam price

Fe ddylai Cymru dilyn esiampl yr Alban wrth geisio mynd i’r afael â sylwadau treisgar a chamdriniol eu natur yn erbyn gwleidyddion.

Dyna’r alwad gan gyn arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd, Adam Price AS, sydd yn dweud ei fod wedi profi sylwadau “homoffobig” a “phersonol iawn” yn ymwneud â’i blant yn y misoedd diwethaf.

Mae Sefydliad Jo Cox, a’i henwir ar ôl yr Aelod Seneddol a gafodd ei llofruddio yn 2016, yn dweud bod 43% o Aelodau Seneddol o Gymru ac Aelodau’r Senedd wedi derbyn bygythiadau am eu bywyd yn ystod eu gyrfa.

Mae ymchwil gan Bwyllgor y Llefarydd yn San Steffan hefyd yn dangos “cynnydd” mewn sylwadau treisgar a bygythiadau yn erbyn gwleidyddion.

Roedd adroddiad gan y pwyllgor yn dweud bod y lefel bresennol o fygythiadau yn erbyn Aelodau Seneddol yn “gwanhau democratiaeth a rhwystro trafodaeth”.

Ac mae Mr Price yn credu bod hynny yn wir yng Nghymru yn ogystal.

Wrth drafod y pwnc ar raglen Sunday Supplement ddydd Sul, dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, bod y gamdriniaeth yn “waeth” i “ferched, pobl o liw a phobl o’r gymuned LHDT+”.

“Yn ôl pob golwg, mae'n dechrau gyda sylwadau personol, yn eithaf dibwys - ond yna mae'n mynd yn fwyfwy gwenwynig, ac rydych chi'n gorffen gyda bygythiadau marwolaeth.

“Gwelsom dros nos y newyddion ofnadwy o Minnesota, gyda gwleidyddion democrataidd yn cael eu saethu. A'r hyn rydym wedi ei weld yma, gydag Aelodau Seneddol yn cael eu lladd, yw thrais â chymhelliant gwleidyddol mewn gwirionedd.

"Dyma ddiwedd y sbectrwm treisgar hwn.”

Fe ychwanegodd Mr Price: “Mae'n fygythiad i ddemocratiaeth. Oherwydd yr hyn mae'n golygu yw nad yw pobl naill ai'n sefyll o gwbl neu maen nhw'n rhoi'r gorau iddi oherwydd na allant wynebu natur gwenwying gwleidyddiaeth fodern.”

“Rydym i gyd yn colli o ganlyniad i hynny, oherwydd nad ydym yn cael y gynrychiolaeth amrywiol sydd ei hangen arnom er mwyn i ddemocratiaeth weithredu.”

'Difrifol iawn'

Yn y Senedd wythnos diwethaf, fe wnaeth yr Ysgrifennydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, gyhoeddi y byddai costau diogelwch wedi'u heithrio o derfynau gwariant ar gyfer etholiadau Cymru y flwyddyn nesaf.

Image
Jane Hutt
Yr Ysgrifennydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS

Ond mae Mr Price yn credu fod yn rhaid mynd ymhellach i fynd i atal y bygythiadau.

“Mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud. 

"Er enghraifft, mae Senedd yr Alban wedi sefydlu gwasanaeth monitro awtomatig felly nid yw'n gyfrifoldeb ar ASau unigol i ddarllen drwy'r sylwadau a chanfod y rhai mwyaf difrifol eu hunain, sydd yn bygwth trais corfforol. 

"Mae’n cael ei wneud yn awtomatig, ac mae'n llwyddiannus iawn wrth nodi'r bygythiadau difrifol iawn hynny.

“Gallech chi gyflwyno deddfwriaeth yn syml iawn i ail-gategoreiddio cwmnïau cyfryngau cymdeithasol fel cyhoeddwyr. 

"Byddai hynny'n golygu y byddai ganddyn nhw'r cyfrifoldeb eu hunain i adolygu a nodi’r sylwadau sy'n amlwg yn annerbyniol. 

“Rwy'n credu hefyd fod cyfrifoldeb ar wleidyddion, oherwydd mae'r ffordd rydyn ni'n gweithio â'n gilydd yn anfon neges bod yn rhaid i ni ymddwyn gyda pharch er mwyn dechrau dylanwadu ar y diwylliant gwleidyddol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.