Newyddion S4C

Dartiau: Cymru yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd

Gerwyn Price / Jonny Clayton

Mae Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Dartiau’r Byd.

Fe lwyddodd Gerwyn Price a Jonny Clayton i ennill 8-5 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth ddydd Sul yn Frankfurt, yn Yr Almaen.

Yn gynharach yn y dydd, fe hawliodd y Cymry buddugoliaeth gyfforddus o 8 gymal i 4 dros Hong Kong yn rownd yr wyth olaf.

Daeth hynny ar ôl i'r pâr drechu'r Philippinau 8-2 ddydd Sadwrn yn yr ail rownd.

Fe fydd y Cymry'n wynebu'r Gogledd Iwerddon yn y rownd derfynol nos Sul, gan obeithio ennill y gystadleuaeth am y trydydd tro.

Mewn canlyniad annisgwyl ddydd Sadwrn, fe wnaeth tîm Lloegr, gyda dau bencampwr y byd Luke Humphries a Luke Littler, fynd allan o’r gystadleuaeth ar ôl colli 8-4 yn erbyn yr Almaen.

Yn ail ar restr detholion y gystadleuaeth, y tu ôl i Loegr, roedd Price a Clayton ymhlith y ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth, ar ôl codi'r tlws dwywaith yn y pedair blynedd diwethaf. 

Llun: PDC
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.