
'Pethau wedi gallu bod yn wahanol' i ddyn o Sir Gâr a gwympodd drwy fwlch mewn ffens yn Magaluf
'Pethau wedi gallu bod yn wahanol' i ddyn o Sir Gâr a gwympodd drwy fwlch mewn ffens yn Magaluf
Byddai “pethau wedi gallu bod yn wahanol” petai darn o ffens wedi’i hatgyweirio, yn ôl dyn o Sir Gâr a gafodd ei anafu yn Magaluf.
Fe gwympodd Ifor Jones o Lanllwni tra ar wyliau ym mis Ebrill llynedd.
Profodd anafiadau difrifol i’w ben ac fe fuodd mewn coma am 11 diwrnod.
“Gwympes i ryw bump i saith metr a lando ar fy mhen ar y concrit,” meddai wrth siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar.
Bu yn yr ysbyty yn Palma am ddeg wythnos ac yn yr ysbyty yng Nghaerdydd am bum wythnos ychwanegol ar ôl cael sepsis.
“Fe ddywedodd y doctoriaid wrth y teulu i ddisgwyl y gwaetha’... fe alle fe wedi mynd unrhyw ffordd a gallen i ddim wedi dod rownd.”

Roedd Ifor ar wyliau gyda chriw mawr o’i ffrindiau yn Magaluf, tref ar ynys Mallorca sy’n adnabyddus am ei bywyd nos.
Ond, ar y noson olaf wrth gerdded yn ôl i’w westy, fe gwympodd trwy fwlch mewn ffens.
“O’dd ffens ar hyd a palmant, ond o’dd un rhan o fe ar goll," meddai.
Yn ôl adroddiadau yn y wasg yn Sbaen ar y pryd, roedd trigolion lleol wedi codi pryderon am y bwlch yn y ffens ers blwyddyn.
Roedd un erthygl yn nodi bod cwyn wedi’i wneud i’r cyngor lleol ddeuddydd yn unig cyn damwain Ifor.
“Yn amlwg os bydde’r rhan fach ’na o’r ffens yna, bydde pethe ’di gallu bod yn wahanol iawn," meddai.
Mae Y Byd ar Bedwar wedi cysylltu gyda’r heddlu a’r cyngor yn Magaluf am ddatganiad, ond heb dderbyn ymateb.

Y gefnogaeth wedi bod yn 'anhygoel'
Erbyn hyn, mae Ifor wedi gwella’n wyrthiol ac yn gallu parhau i ffermio adref yn Llanllwni.
Mae e wedi colli ei olwg yn ei lygad dde ac yn dal i orfod cael triniaethau cyson ar ei ben a’i gefn.
Er hyn, mae’n dweud ei fod wedi’i lorio gan y gefnogaeth iddo yn lleol.
“Ma’r gymuned, ma’ gwahanol gymdeithase’ a mudiade wedi bod yn anhygoel - ma’ gymaint o ddiolch gyda fi i roi," meddai.
“Fi ’di bod yn lwcus iawn o’n nheulu a’n ffrindie - nhw sydd wedi dioddef fwyaf mewn ffordd.”

Damweiniau tramor yn 'profi’n her am atebion'
Yn ôl Rebecca Gilmore, sydd â dros 20 mlynedd o brofiad mewn cyfraith teithio, mae cynnydd wedi bod yn yr achosion o ddamweiniau tramor, yn enwedig ers Covid.
“Mae pobl yn cysylltu â ni yn ddyddiol eisiau help neu eisiau cyngor," meddai.
“Mae’r achosion yn amrywio o ran oedran ac o ran sefyllfa, ond yn aml, mae’n nhw’n gallu bod yn drist iawn.”
Mae’n dweud bod delio gyda chyfreithiau tramor yn gallu profi’n her ychwanegol.
“Bydd profiad pob teulu yn wahanol, ond yn aml, bydd ’na heriau am atebion sy’n deillio o’r gwahaniaeth amser, gall y cyfathrebu fod yn anodd gan fod yr iaith yn wahanol," meddai.
“Mae cael cyswllt da yn y Swyddfa Dramor yn allweddol, ond rwy’n teimlo bod angen mwy o gamau i wella’r broses honno i deuluoedd.”
Yn ôl y Swyddfa Dramor, mae eu staff yn “cefnogi dros 20,000 o Brydeinwyr a’u teuluoedd bob blwyddyn” ar draws y byd.
“Mewn achosion lle mae Prydeinwyr yn marw dramor, ry’n ni’n rhoi cymorth personol sy’n cynnwys gwybodaeth ymarferol am y prosesau mewn gwledydd gwahanol," meddai.
Bydd rhaglen Y Byd ar Bedwar: Damweiniau dros y dŵr ar S4C nos Lun am 8yh.