Glasto’n galw: Mali Hâf yn serennu
Glasto’n galw: Mali Hâf yn serennu
Mae’r gantores Mali Hâf, sy’n enedigol o Gaerdydd, wedi glanio ei gig delfrydol — perfformio ar lwyfan BBC Introducing yn Glastonbury ddiwedd mis Mehefin.
Yn adnabyddus am ei sain Gymreig nodedig, y mae hi’n ei disgrifio fel pop Celtaidd, mae Mali wedi bod yn ysgrifennu a pherfformio yn y Gymraeg ers sawl blwyddyn — a dywed ei bod yn golygu popeth i allu cynrychioli ei gwlad a’i hiaith ar lwyfan mor fawr.
“Gobeithio bod hyn yn dangos i bobl, merched hefyd, os chi’n canu yn y Gymraeg, yn neud miwsig a chi o Gymru, cadwch sgwennu a falle un dydd byddwch chi ar lwyfan oeddech chi byth yn meddwl byddech chi’n perfformio arni,” meddai wrth Newyddion S4C.
Daeth y cyfle trwy gystadleuaeth ‘Emerging Talent’ Glastonbury — ac meddai Mali, roedd pob cam yn sioc lwyr.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, roedd rhaid i artistiaid gyflwyno cân a fideo. Dewisodd Mali ei thrac pwerus yn y Gymraeg, Esgusodion.
“Pe bai fy nghaneuon i’n blant, Esgusodion fyddai fy hoff blentyn,” meddai.
O dros 7,500 o geisiadau, dim ond 90 o artistiaid a ddewiswyd ar gyfer y rhestr hir. Cyrhaeddodd Mali yr wyth olaf — ac yn y pen draw, cafodd ei dewis i berfformio yn Glastonbury 2025.
Fel rhan o'r wobr, mae Mali hefyd wedi derbyn gwobr Datblygu Talent gwerth £5,000 gan Sefydliad PRS i gefnogi ei thwf fel cyfansoddwr caneuon a pherfformiwr.
“Mae’n deimlad fi ffili disgrifio.”
A dim ond y dechrau yw hwn — gan fod Mali hefyd wedi cadarnhau y bydd yn mynd ar ei thaith gyntaf o amgylch y DU yn ddiweddarach eleni.