Newyddion S4C

Ymchwiliad heddlu ar ôl negeseuon 'ffug' am fomiau yn Aberdâr

Parc Aberdâr

Mae’r heddlu wedi dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad yn dilyn negeseuon "ffug" ar-lein yn ymwneud â gosod bomiau mewn parc yng Nghwm Cynon.  

Mewn datganiad nos Sadwrn dywedodd Heddlu’r De mai negeseuon “ffug maleisus” oedd y rhain gan ychwanegu “nid oes angen am unrhyw bryder pellach.” 

Daw ar ôl i bobl gweld negeseuon ar gyfrwng cymdeithasol Facebook oedd yn datgan bod yna fomiau ym Mharc Aberdâr yn y dref. 

Dywedodd y llu eu bod nhw wedi cynnal archwiliadau “trylwyr” yn yr ardal. 

Mewn datganiad ar X, dywedodd y cynghorydd ac arweinydd y Blaid Lafur ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, ei fod wedi derbyn “sawl neges” oedd yn gysylltiedig â “negeseuon dienw ar Facebook heno yn awgrymu fod bomiau wedi eu gosod ger Aberdâr.” 

Dywedodd ei fod wedi bod mewn cyswllt gyda’r heddlu a bod y llu yn delio â’r mater. 

Mae Heddlu’r De wedi dweud eu bod yn cymryd troseddau o’r fath “o ddifrif” a’u bod yn cynnal ymchwiliad er mwyn dod o hyd i’r person neu bobl oedd yn gyfrifol. 

Maen nhw’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2500188042.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.