Y DU yn darparu rhagor o awyrennau milwrol i'r Dwyrain Canol

15/06/2025
Starmer / Typhoon Jet (Llun: RAF)

Fe fydd rhagor o awyrennau’r RAF yn cael eu hanfon i’r Dwyrain Canol wrth i’r brwydro rhwng Israel ac Iran ddwysau, yn ôl y Prif Weinidog.

Dywedodd Syr Keir Starmer y byddai awyrennau milwrol gan gynnwys awyrennau Typhhon, yn cael eu darparu fel “cefnogaeth wrth gefn ar draws yr ardal.”

Dywedodd bod trafodaethau gyda chynghreiriau yn parhau, gan ychwanegu mai’r “neges barhaus yw camu’n ôl” o’r brwydro.

Nid yw Starmer wedi cadarnhau os byddai’r awyrennau yn cael eu defnyddio i amddiffyn Israel.

“Cefais drafodaeth dda ac adeiladol gyda Phrif Weinidog [Benjamin] Netanyahu ddydd Gwener, ac roedd hynny yn cynnwys trafodaeth am ddiogelwch Israel, fel y byddwch yn ei disgwyl rhwng dau gynghreiriad.”

Fe wnaeth hefyd bwysleisio bod gan y DU “pryderon hir sefydlog” am gynllun niwclear Iran, gan hefyd gydnabod hawl Israel i amddiffyn ei hun.

Daw yn dilyn bygythiad gan Iran y byddai yn targedu canolfannau a llongau milwrol y DU, America, Ffrainc a chynghreiriau eraill, petaent yn rhoi cymorth i Israel.

Ymateb Trump

Wrth ymateb i’r bygythiadau mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Sadwrn, dywedodd Arlywydd America, Donald Trump, y byddai’r wlad yn gwrthymosod “ar lefelau na welwyd erioed o’r blaen” petai Iran yn eu targedu.

"Os bydd Iran yn ymosod arnom mewn unrhyw ffordd, bydd cryfder a grym llawn Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau yn dod i lawr arnoch ar lefelau na welwyd erioed o'r blaen.

"Fodd bynnag, gallwn ni gael cytundeb yn hawdd rhwng Iran ac Israel, a dod â'r gwrthdaro gwaedlyd hwn i ben!!!"

Ymosodiadau dros nos

Daeth ei sylwadau wrth i Iran ac Israel gyfnewid mwy o ymosodiadau dros nos, gydag adroddiadau o Israel yn dweud bod o leiaf 10 o bobl wedi eu lladd a 200 wedi eu hanafu gan daflegrau gan Iran oedd wedi taro adeiladau preswyl.

Cafodd chwech o bobl eu lladd yn ninas Bat Yam, gan gynnwys dau o blant, tra bod saith o bobl ar goll wrth i’r gwasanaethau brys chwilio drwy rwbel adeiladau.

Cafodd pedwar o bobl eu lladd mewn ymosodiad yn nhref Tamra yng ngogledd y wlad yn ogystal.

Nid yw’r cyfryngau yn Iran wedi adrodd unrhyw anafiadau na marwolaethau yn dilyn ymosodiadau'r IDF ar y brifddinas Tehran nos Sadwrn.

Mae disgwyl y bydd y brwydro rhwng Israel ac Iran yn cael ei drafod yng nghyfarfod y G7 yng Nghanada dros y dyddiau nesaf.

Llun: RAF/Hawlfraint y Goron y DU

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.