Newyddion S4C

Arestio dyn yn dilyn adroddiad o saethu yng nghanol tref yn ne Cymru

ITV Cymru
Maesteg

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn tref ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dilyn adroddiadau o saethu. 

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ganol dref Maesteg am tua 20.40 nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau yn lleol o saethu yn ardal Stryd y Bont. 

Roedd nifer o gerbydau’r heddlu yn bresennol er mwyn ymateb i’r sefyllfa. 

Cafodd dyn 44 oed ei arestio am atal yr heddlu rhag eu gwaith yn ogystal â bod yn feddw ac afreolus (drunk and disorderly).  

Cafodd taser ei ddefnyddio gan swyddogion cyn iddyn nhw lwyddo i arestio'r dyn. 

Cafwyd hyd i arf aer (air weapon) o dan lwyni yn ddiweddarach cyn i'r heddlu ei feddiannu. 

Roedd “nifer fawr o bobl” yn yr ardal ar adeg y digwyddiad, yn ôl llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.

Mae'r llu wedi cadarnhau eu bod nawr yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.

Maen nhw’n annog unrhyw un all fod o gymorth gyda’u hymchwiliad i gysylltu, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500187991.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.