Carcharu cwpl ar ôl i'w ci ymosod ar blentyn ifanc

13/06/2025
ymosodiad ci

Mae cwpl wedi cael eu carcharu ar ôl i'w ci ymosod ar blentyn ifanc. 

Ymddangosodd Thomas Moir, 38, a Kayleigh Godbert, 39, yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener ar ôl cyfaddef bod yn gyfrifol am gi a oedd allan o reolaeth yn beryglus ac a wnaeth achosi anaf.

Ar 12 Awst 2023, roedd Moir a Godbert o Lannau Dyfrdwy yn gyfrifol am eu ci, o frîd Akita, pan aeth allan o reolaeth yn beryglus.

Fe ymosododd y ci ar y plentyn, gan ei frathu ar ei ben a'i wyneb a'i adael gydag anafiadau a fyddai'n newid bywyd. 

Fe gafodd y ddau eu dedfrydu i 18 mis yn y carchar. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl James Grimwood: “Roedd hwn yn ddigwyddiad erchyll ac yn anffodus mae wedi arwain at anafiadau difrifol a pharhaol i blentyn bregus.

"Nid yw Moir a Godbert wedi dangos unrhyw fath o edifeirwch mewn gwirionedd drwy gydol yr ymchwiliad hwn er gwaethaf y canlyniadau parhaol y mae eu gweithredoedd wedi’u cael ar blentyn ifanc.

"Mae canlyniad yr achos llys yn adlewyrchu difrifoldeb y digwyddiad, a dwi'n gobeithio ei fod yn anfon neges at unrhyw un sydd yn berchennog ar gi i sicrhau nad ydyn nhw yn gadael eu cŵn ar eu pennau eu hunain gyda phlant."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.