Artist o Gymru yn canslo perfformiad wedi cais gan y BBC iddi beidio gwisgo crys Palesteinaidd
Mae'r artist Marged Siôn yn dweud iddi ganslo ei pherfformiad mewn gŵyl yn Hwngari am fod un o drefnwyr ei thaith, o gynllun BBC Gorwelion, wedi gofyn iddi beidio gwneud "protest" drwy wisgo crys Palesteinaidd i ddangos cefnogaeth i Gaza.
Roedd Ms Siôn, 33, o Gaerdydd i fod i berfformio yng ngŵyl Valley of Arts yn Budapest fel rhan o gynllun BBC Gorwelion i ehangu cyrhaeddiad artistiaid Cymraeg.
Wedi iddi rannu ei bwriad i wisgo crys pêl-droed gyda 'Palesteina' wedi ei ysgrifennu yn Arabaidd arno ar gyfer y perfformiad, mae Ms Siôn yn dweud iddi dderbyn neges gan un o'r trefnwyr yn gofyn iddi beidio â gwneud "protest" allan o'i pherfformiad, gan ei fod yn eu rhoi "mewn sefyllfa anodd".
Yn sgil hyn, mae Ms Siôn yn dweud iddi dynnu yn ôl o'r perfformiad, gan beidio hedfan allan i Hwngari.
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y BBC wrth Newyddion S4C: "Y flaenoriaeth bob tro yw sicrhau diogelwch artistiaid Gorwelion.
"Roedd y cyngor a rannwyd gyda Marged er budd ei diogelwch personol."
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, fe ddywedodd Ms Siôn nad oes "dim lle i ddanfon neges breifat yn gofyn i fi beidio mynegi barn yn rhydd fel artist, fel ma' gyda fi absolute hawl i'w wneud".
"Mae yna ddyletswydd i gadw artistiaid yn saff o ran os ma' nhw mo'yn mynegi barn hefyd ond be oedd nhw'n poeni amdano oedd cadw eu henw nhw yn glir o unrhyw controversy so nes i benderfynu peidio neud e," meddai.
"Fy egwyddorion i fydd y peth sydd wastad mwya' pwysig achos y ffordd fi genuinely yn teimlo nawr yw ma'r ffaith bod gyda ni unrhyw fath o ryddid i fyw bywyd fel y'n ni'n byw bywyd, ma' fe'n absolute privilege bo' ni'n gallu neud hwnna.
"I fi, mae'r ffaith bo' fi ddim yn gallu chwarae gig, obviously oedd e'n siom, o'n i'n siomedig bo' fi methu mynd a rhannu cerddoriaeth a pwy ydw i fel artist mewn gwlad wahanol, o'n i'n siomedig iawn am hwnna.
"Ond ar y foment, dydw i ddim yn gweld unrhyw beth yn fwy pwysig."
Fe wnaeth Ms Sion roi gwybod i BBC Gorwelion na fyddai hi yn perfformio, ac fe dderbyniodd neges yn ôl yn diolch am roi gwybod, ac y byddan nhw yn rhoi gwybod i'r ŵyl.
Digwyddiadau diweddar
Mae'r BBC eisoes wedi derbyn beirniadaeth dros yr haf yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â pherfformiad byw y rapiwr Bob Vylan yng Ngŵyl Glastonbury eleni.
Yn ystod y perfformiad fe wnaeth y rapiwr 'Bobby Vylan', aelod ar y cyd gyda 'Bobbie Vylan' o'r ddeuawd Bob Vylan, annog pobl i ymuno gydag o wrth weiddi: “Marwolaeth, marwolaeth i’r IDF” – sef byddin Israel.
Fe ddywedodd y gorfforaeth y dylen nhw fod wedi stopio darlledu llif byw o'r perfformiad.
Mewn datganiad fe ddywedodd y BBC bod "ystyriaethau gwrth-semitiaeth" y grŵp yn "hollol annerbyniol".
Yn ogystal, fe benderfynodd adolygiad gan y gorfforaeth fod rhaglen ddogfen gan y BBC am Gaza wedi torri canllawiau golygyddol ar gywirdeb drwy fethu â datgan fod yr adroddwr yn y rhaglen yn fab i swyddog Hamas.
Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Tim Davie, gomisiynu adolygiad i'r rhaglen 'Gaza: How to Survive a Warzone' wedi iddi gael ei thynnu oddi ar iPlayer ym mis Chwefror pan ddaeth cysylltiadau teulu'r bachgen i'r amlwg.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad fod y cyfrifoldeb mwyaf am yr hyn ddigwyddodd yn syrthio ar y cwmni cynhyrchu annibynnol, Hoyo Films.
Ond fe ychwanegodd yr adolygiad fod gan y BBC rywfaint o gyfrifoldeb hefyd, ac y dylen nhw fod wedi gwneud mwy o oruchwyliaeth.
Fe ddywedodd y BBC na ddylai'r rhaglen fod wedi cael caniatâd i gael ei darlledu, ac eu bod yn cymryd camau priodol er mwyn sicrhau atebolrwydd.
'Pethe mwy pwysig'
Mae Ms Siôn yn teimlo fod angen edrych tu hwnt i'r digwyddiadau yn ymwneud â'r gorfforaeth yn ddiweddar.
"Dyw hwnna ddim rili o bwys i fi i fod yn onest sut mae'r BBC yn teimlo fel institution Prydeinig... ma' 'na bethe mwy pwysig yn mynd ymlaen na'r BBC mewn sefyllfa anodd," meddai.
"Beth sydd yn confusing i fi yw BBC Horizons. Horizons yw initiative sydd yn edrych ar ôl artistiaid Cymraeg... o fewn systemau sydd yn cefnogi artistiaid Cymraeg. Pan mae'r artistiaid yna yn dangos solidariaeth gyda profiad indigenous arall, ma' nhw'n cael eu sensori.
"Fel Cymraes ac fel artist o Gymru, fyswn i'n hoffi gweld mwy o safle pwrpasol gan institutions fel BBC Horizons sydd yn cefnogi artistiaid o Gymru, o wahanol ddiwylliannau i feddwl sut ma' nhw yn sefydlogi eu hunain o ran mynegiant barn a free speech, a meddwl yn specific am hanes Cymru.
"Y peth mwya' pwysig yn hyn i gyd yw bod 'na gadoediad yn hir-dymor ac am byth ym Mhalesteina, a dyna beth sydd yn bwysig rili, ond fi'n meddwl bod 'na ddyletswydd ar artistiaid i wneud be' bynnag ma' nhw'n gallu i ddangos solidariaeth."