Dyn o Gymru a'i deulu 'ar awyren a blymiodd i'r ddaear yn India'
Roedd dyn o Gasnewydd a’i wraig a'i ferch ymhlith y 53 o Brydain oedd ar awyren a wnaeth blymio i’r ddaear yn India, yn ôl ITV Cymru.
Roedd yr awyren Air India rhif AI171 yn teithio o faes awyr Ahmedabad i faes awyr Gatwick yn Llundain yn cario 230 o deithwyr a chriw o 12, cyn iddo blymio i'r ddaear yn y ddinas, pum munud ar ôl cychwyn y daith.
Yn ôl ITV Cymru, roedd dyn busnes o’r enw Akeel Nanabawa ar yr awyren, yn ogystal â’i wraig Hannaa Vorajee a’u merch.
Fe gafodd Mr Nanabawa ei fagu yng Nghasnewydd, cyn symud i fyw yn Sir Gaerloyw gyda’i deulu.
Dywedodd arweinydd cymunedol sy'n cefnogi'r teulu: ''Yn ystod y cyfnod anodd hwn, gofynnwn yn garedig i bawb osgoi dyfalu neu rannu gwybodaeth heb ei gwirio.
"Mae'r teulu eisoes yn mynd trwy ddigon ac mae angen lle a phreifatrwydd arnynt.''
Roedd lluniau o ddinas Ahmedabad yn dangos mwg du trwchus yn codi i'r awyr ar ôl y damwain, gyda rhan o'r awyren yn gorffwys ar ben adeilad.
Yn ôl comisiynydd yr heddlu yno mae un dyn o Brydain wedi goroesi o'r 243 o bobl oedd ar yr awyren.
Dywedodd GS Malik wrth asiantaeth newyddion ANI mai Vishwash Kumar Ramesh oedd yn eistedd yn sedd 11A oedd yr unig berson i oroesi.
Ychwanegodd ei fod "yn yr ysbyty ac yn derbyn triniaeth".
Fe laniodd yr awyren ar ben ardal fwyta mewn hostel coleg meddygol, yn ôl adroddiadau lleol.
Nid oedd yn glir a oedd unrhyw fyfyrwyr meddygol yn bresennol y tu mewn i'r adeilad ar adeg y ddamwain.
Dywedodd Tata Sons, sy'n berchen ar Air India, y bydd yn cynnig tua £86,000 i deuluoedd pob person a fu farw yn y ddamwain, yn ogystal â thalu costau meddygol y rhai a anafwyd.