
'Anhygoel': Cynnal pencampwriaeth fwyaf y byd golff i fenywod yng Nghymru am y tro cyntaf
'Anhygoel': Cynnal pencampwriaeth fwyaf y byd golff i fenywod yng Nghymru am y tro cyntaf
Mae un o’r digwyddiadau mwyaf ym myd golff y menywod yn dechrau dydd Iau – ac mae’n cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf erioed eleni.
Dyma yw’r tro cyntaf i’r Bencampwriaeth Agored i Fenywod cael ei chynnal yn y wlad, a hynny ar gwrs Clwb Golff Brenhinol Porthcawl.
Ac yn ôl rhai o’r golffwyr uchel eu parch fydd yn cystadlu yn y bencampwriaeth, mae hynny’n “enfawr – nid jyst i Gymru ond i fenywod sy’n chwarae golff.”
Ymhlith yr enwau adnabyddus sydd yn gobeithio dod i’r brig y mai’r olffwraig broffesiynol Darcey Harry (prif lun) o Ddinas Powys ym Mro Morgannwg.
"Dyma dwrnamaint mawr olaf y flwyddyn ac rwy'n credu ei fod yn sicr yn edrych yn un o'r goreuon," meddai.
"Hoffwn i ddweud hynny oherwydd mai dyma fy nghwrs cartref.
"Mae'n edrych yn anhygoel, ac mae'n wych gweld fy nghwrs cartref fel hyn."

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd yr olffwraig Kathryn Davies-Evans: “Mae lot o bobl yn meddwl bod golff yn gêm i ddynion ond dyw e ddim.
“Mae ‘na lot o fenywod yn dod mewn… ma’ fe lot o hwyl.”

Mae’r ffaith bod y bencampwriaeth wedi dod i Gymru yn “anhygoel o beth,” meddai’r olffwraig Lowri Roberts.
“Da ni byth yn cael campau enfawr fel hyn," meddai. "Hwn ‘di’r mwya o’i fath i ferched yn y wlad erioed felly mae ‘na rywbeth i ddathlu.
“Mae o’n fendigedig ei weld o, mae o’n siŵr o ysbrydoli’r genhedlaeth nesa’ o gennod a hogiau gobeithio.”

Un sydd yn dweud iddi gael ei hysbrydoli gan yr holl fwrlwm yw’r olffwraig ifanc o’r enw Polly.
Dywedodd: “Mae’n anhygoel i gweld menywod o ar draws y byd yma yng Nghymru i cystadlu, i ‘neud be maen nhw’n dda am.
“Mae’n ysbrydoli fi llawer i cario ‘mlaen gyda chwaraeon.”

Yn ôl y Prif Weinidog Eluned Morgan, mae’r broses o sicrhau bod y bencampwriaeth yn cael ei chynnal yng Nghymru wedi “cymryd blynyddoedd.”
“Ond wrth gwrs beth sy’n bwysig yw bod ni’n adeiladu ar y legacy yna," meddai.
“Bod ni’n gweld golff yn cael ei cymryd lan gan merched ifanc, gan bechgyn ifanc, a bod ‘na dealltwriaeth bod e ddim yn rhywbeth sy’n elitaidd rhagor.”

Fe fydd Y Bencampwriaeth Agored i Fenywod yn cael ei chynnal ym Mhorthcawl rhwng 31 Gorffennaf – 3 Awst.