Newyddion S4C

Galw am wneud anffurfio corff marw yn drosedd

April Jones

Mae teuluoedd pobl sydd wedi cael eu llofruddio, gan gynnwys teuluoedd Michael O’Leary o Sir Gâr ac April Jones o Bowys, wedi galw ar Brif Weinidog y DU i wneud anffurfio corff marw yn drosedd.

Cafodd y mater ei godi gan AS Plaid Cymru, Ann Davies yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mercher.

Fe wnaeth yr AS dros Gaerfyrddin ofyn i Syr Keir Starmer i gyfarfod â’r teuluoedd i drafod y mater.

Dywedodd Ms Davies: "Cafodd fy etholwr Mr Michael O’Leary ei lofruddio’n greulon bum mlynedd yn ôl a chafodd ei gorff ei anffurfio (desecrate).

"Rwyf wedi gwneud nifer o geisiadau i drafod ei achos ef ac achosion dioddefwyr eraill gyda gweinidogion i edrych ar gyflwyno deddfwriaeth sy’n gwneud anffurfio corff yn drosedd.

"A fyddai’r Prif Weinidog yn cyfarfod â theulu Mr O’Leary, ynghyd â theuluoedd dioddefwyr eraill, gan gynnwys April Jones o Fachynlleth, Sarah Everard a Helen McCourt, i glywed pam eu bod nhw'n galw am gyflwyno trosedd newydd o anffurfio corff?"

'Angen gwrando'

Wrth ymateb, dywedodd Syr Keir: "Gaf i ddiolch iddi am godi’r achos erchyll hwn a’r achosion tebyg eraill ac mae fy meddyliau, ac rwy’n siŵr bod meddyliau’r Tŷ cyfan gyda theulu Michael a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddau mor ffiaidd.

"Rwy’n credu bod angen i ni i gyd wrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud.

"Rwy’n siŵr y bydd y gweinidog cyfiawnder mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl i fwrw ymlaen â hyn."

Cafodd Mr O’Leary, tad 55 oed i dri o blant, ei saethu’n farw gan ei ffrind Andrew Jones yn 2020, ar ôl i Jones ddarganfod ei fod yn cael perthynas â’i wraig.

Yna fe wnaeth losgi corff Mr O’Leary ar goelcerth wedi’i wneud o baletau pren, gan geisio gwneud iddo edrych fel pe bai wedi lladd ei hun.

Cafodd April Jones ei chipio yn bump oed o’i chartref ym Machynlleth, Powys a’i llofruddio gan y troseddwr rhyw Mark Bridger yn 2012.

Roedd tystiolaeth bod penglog ddynol wedi’i llosgi yn lle tân cartref Bridger.

Cafodd Sarah Everard, 33, ei chipio a’i llofruddio gan y swyddog heddlu Wayne Couzens yn 2021, a losgodd ei chorff yn y coed wedyn.

Roedd Helen McCourt yn 22 oed pan gafodd ei lladd wrth gerdded adref ym Merseyside, ac ni wnaeth ei llofrudd erioed ddatgelu lleoliad ei chorff.

Mae ei mam, Marie McCourt, wedi ymgyrchu dros Gyfraith Helen, a fyddai’n ei gwneud yn drosedd cuddio corff, a Chyfraith Helen 2, a fyddai’n gwneud anffurfio corff yn drosedd newydd.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.