Dynes 'ddisglair' wedi marw wrth ddringo ar Tryfan gyda grŵp o ffrindiau
Bu farw dynes "ddisglair a chydwybodol" ar ôl disgyn wrth ddringo mynydd Tryfan gyda grŵp o ffrindiau, mae cwest wedi clywed ddydd Mercher.
Bu farw Maria Eftimova, 28 oed o St Helen's yng Nglannau Mersi, ar ôl disgyn 60 troedfedd ar fynydd Tryfan ar 22 Chwefror.
Fe ymunodd ei theulu o Bwlgaria y cwest i’w marwolaeth yn Llys y Crwner yng Nghaernarfon ddydd Mercher dros gyswllt fideo.
Clywodd y cwest bod Ms Etfimova, oedd yn gweithio fel peiriannydd sifil, wedi dringo’r mynydd sawl tro ar sawl llwybr gwahanol.
Ar y diwrnod, fe ymunodd â grŵp oedd wedi ymaelodi gydag o dros Facebook, i ddringo’r mynydd eto.
Dywedodd Neil Oakes, ei fod yn rhan o grŵp o 18 o bobl oedd ar gopa’r mynydd pan gafodd y grŵp ei rannu’n ddau. Roedd yn dringo o flaen Miss Etimova, cyn troi i wirio ble oedd ei ffrind.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Oakes: “Fe wnes i droi rownd a gweld Maria yn disgyn drwy’r awyr islaw.
"Roeddwn i’n gwybod y byddai yn taro rhywbeth. Roeddwn i’n gweiddi ‘na, na, na’. Pan droais i’n ôl roedd hi wedi taro’r silff islaw.”
Dywedodd Jed Stone, o dîm achub mynydd Dyffryn Ogwen, bod Ms Etfimova wedi bod yn dringo ar wyneb ogleddol y mynydd, ar dir carregog a serth, gyda sawl clogwyn.
Dywedodd uwch grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson: “Yn anffodus iawn, mae’n ymddangos bod Maria yn sgrialu gyda phobl eraill pan syrthiodd yn annisgwyl.
“Yn ystod y cwymp hwnnw, fe wnaeth hi ddioddef yr anafiadau a arweiniodd yn anffodus at ei marwolaeth.
"Roedd y cwymp hwnnw’n gwbl ddamweiniol.”
Fe wnaeth y patholegydd ganfod sawl anaf, gan gynnwys rhai difrofol i’r pen.
Wrth ymuno dros gyswllt fideo, dywedodd Rosen Eftimov, ei thad, fod Ms Etimova yn mwynhau gweithgareddau awyr agored, ac wedi eirafyrddio, syrffio, cymryd rhan mewn marathonau ac ioga, dawnsio polyn, a dringo rhewlifoedd yn Norwy.
"Clywsom am farwolaeth Maria o alwad ffôn gan ei ffrindiau gyda hi ar adeg y ddamwain,” meddai.
Fe wnaeth y crwner fynegi ei chydymdeimlad, gan ddweud: "Mae'r ffordd mae Mr Eftimov wedi disgrifo Maria yn dangos ei bod yn unigolyn disglair a chydwybodol iawn."